Amgueddfa’r Lleuad

Digwyddiad:Disgo Tawel - Dawnsio Dan y Lloer

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

28 Mawrth 2026, 6yp (Digwyddiad Teuluol); 9yn (Oedolion yn Unig)
Pris Digwyddiad Teuluoedd: £8/£10 | Oedolion yn Unig: £16/£20
Addasrwydd Pawb
Disgo Tawel: Dawnsio Dan y Lloer

Mae Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno Disgo Tawel arbennig iawn – Dawnsio dan y Lloer!  

 

Dewch i fwynhau dan y lloer yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle bydd Amgueddfa'r Lleuad yn ganolbwynt ar gyfer noson fendigedig.  

 

Dewch i glywed rhai o DJs gorau'r ddinas frwydro i'ch diddanu! Ymunwch â ni i ganu clasuron yng ngolau'r lleuad yn un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas. 
 

Felly, tynnwch y llwch oddi ar eich esgidiau gofod a pharatoi ar gyfer noson sy'n sicr o fod yn fythgofiadwy! ⁠  

 

DIGWYDDIAD TEULUOL (6pm – 8pm) 

Dylai pawb sy'n cymryd rhan fod yn 5+ oed a rhaid i bawb fod yng nghwmni oedolyn! 

WEDI GWERTHU ALLAN

 

DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG (9pm – 12am) 

Y digwyddiad i bobl 18+ yn unig hwn yw eich cyfle i ddawnsio dan y lloer. 

ARCHEBU TOCYN OEDOLION YMA

 

Bydd gwesteion yn mwynhau: Tri DJ yn chwarae amrywiaeth o genres. 

 

Profiad disgo tawel mewn lleoliad eiconig. 

⁠Bar di-gyswllt Motel Nights DIM GWASTRAFF yn gweini amrywiaeth o ddiodydd. 

 

** BETH YW DISCO TAWEL?** 

Byddwch chi'n derbyn set o glustffonau wrth fynd i mewn, ond nid set arferol, mae gan y rhain dair sianel! Defnyddiwch y swits i newid cerddoriaeth pa DJ rydych chi’n ei glywed a mentro drwy’r genres! PA UN FYDDWCH CHI’N EI DDEWIS? 

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau