Digwyddiad:Gyda'r Hwyr: Gwyddoniaeth Ar Waith
Gyda’r Hwyr: sioe wyddoniaeth a pheirianneg fin nos i’r teulu cyfan, gyda phob math o weithgareddau.
Mae llwythi o stondinau, gweithgareddau a sgyrsiau i edrych arnyn nhw yn yr ardaloedd hyn dros 3 llawr yr Amgueddfa.
Cyfle i chi gwrdd â gwyddonwyr a pheirianwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a mwynhau llond trol o weithgareddau rhyngweithiol, hwyliog... a chael bod yn yr amgueddfa wedi iddi dywyllu!
Bydd y rhaglen lawn ar gael yn fuan ond bydd –
- Sgyrsiau a sioeau difyr yn y theatr gan gynnwys A Science Rapper's Guide to the Solar System gan Jon Chase.
- Dysgu popeth am famothiaid wrth ymyl Tom Bones, y sgerbwd mamoth newydd.
- Gwneud cannwyll gwyr gyda Green Squirrel
- Gwneud i'ch pen droi gyda gemau i'r ymennydd.
- Dysgu rhagor am bryfed a gwneud eich pryf brigyn eich hun i fynd adre gyda chi.
- Cyfle i weld telesgopau a dysgu ffeithiau am seryddiaeth gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd
- Gweld argraffu 3D â'ch llygaid eich hun
- Edrych trwy'r lens feddygol gyda sganiwr MRI neu uwchsain aer
- Gweld Celf Mellt
Digwyddiad partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad prysur a swnllyd iawn. Os hoffech chi ymweld â'n casgliadau ar adeg dawelach, maen nhw ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 10am-4pm ac mae ein tudalen Digwyddiadau yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau eraill a allai fod yn fwy addas.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae pob rhodd, boed yn fawr neu yn fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Gallwch chi roi drwy fynd i Ein cefnogi | Amgueddfa Cymru.
Sylwch, gall gweithgareddau newid ar y funud olaf, felly ffoniwch cyn teithio’n arbennig.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd