Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Darlunio Archaeolegol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae archaeolegwyr yn defnyddio darlunio at amrywiaeth o ddibenion: i ddogfennu a chofnodi, i drefnu a deall eu canfyddiadau, ac i'w cyfleu nhw i gynulleidfa ehangach yn y pen draw.
Dewch Tu ôl i'r Llenni yn y stiwdio gyda Jessie James a dysgwch sut mae darlunio yn rhan o archaeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Ystafell Ddarlunio'r Adran Archaeoleg.
- Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Ystafell Ddarlunio'r Adran Archaeoleg.
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd