Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni i nodi diwedd un rhan o arddangosfa Dyfal Droi y Garreg.
Yn 2023-2025, archwiliodd yr artist Sophie Mak-Schram sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio o fewn Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.
Trwy weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff amgueddfa, datblygodd Sophie 'offer' cydweithio sy'n herio strwythurau grym ac yn eu hail-ddychmygu.
Mae'r arddangosfa ddwy ran sy'n deillio o'r gwaith, Dyfal Droi y Garreg, yn canolbwyntio ar gategoreiddio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a dulliau o ymgynnull yn Chapter.
Bydd Dyfal Droi y Garreg yn Chapter yn cau ar 1 Chwefror. Dyma’ch gwahodd i ymuno â'r arddangosfa, y gweithiau celf a'r cydweithwyr unwaith eto.
(Bydd Dyfal Droi y Garreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dal ar agor tan 15 Chwefror 2026).
Rhaglen
Dydd Sadwrn 31 Ionawr
10-11.30am Bydd Clwb Rhedeg Dal yn Dynn
Pwy sy’n gallu rhedeg yn rhydd, ac yn ddiogel, drwy ofod cyhoeddus?
Mae'r clwb rhedeg yma yn eich gwahodd i ymuno â ni i redeg rhwng Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda gwaith celf, a gyda'ch gilydd.
Mae croeso i bawb waeth faint o redeg rydych chi wedi'i wneud o'r blaen, ond rydyn ni'n argymell eich bod yn cadw lle.
11.45am-12.15pm Warm Leveret Perfformiad yn y cyntedd. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae Warm Leveret yn ymhelaethu ar hanes y gwahanol fathau o groeso yn y neuadd. Mae'r delyn, lleisiau a dolenni yn plethu atgofion ac archifau ynghyd, gan gynnwys adleisiau o gomisiynau'r gorffennol gyda Tŷ Cerdd ac adleisiau byw o'r amgueddfa ei hun.
12.30-1.30pm Sgwrs yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sophie Mak-Schram (artist), Nick Thornton a Steph Burge (Amgueddfa Cymru) a Sim Panaser (Chapter) i drafod y cydweithio. Archebwch eich lle am ddim yma
2-3.30pm yn Perfformiad a gorymdaith - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan orffen yn Chapter*Mynediad i'r wybodaeth isodCân a cherrig i bontio'r pellter rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd â Chapter. Dan arweiniad Rubie a George H. Wale a chan ddefnyddio gweithiau celf o'r arddangosfa, ar y cyd â Sophie Mak-Schram.
Dewch i gwrdd â ni yn yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd [Oriel 15] i ymuno â’r daith a chanu.
4.45 - 5.45pm Set DJ ogoneddus gan Emma Daman Thomas yn y Chapter
Set DJ ogoneddus gan Emma Daman Thomas. Mae Emma Daman Thomas yn chwarae 'covers' anarferol a sampldelia. Blagur newydd o hen wreiddiau, traciau sy'n rhoi sain newydd i gerddoriaeth y gorffennol, gan dynnu llinynnau Dyfal Droi y Garreg yn Chapter ynghyd.
Dydd Sul 1 Chwefror
Chapter
2pm Dangos ffilm: Seeking Mavis Beacon (2024)
Dangosiad am ddim o Seeking Mavis Beacon (Jazmin Jones, 2024), ffilm sy'n adleisio dull Sophie Mak-Schram o ymwneud â hanes, chwilio am gynsail a grym dychmygu byd gwahanol. Mae Seeking Mavis Beacon yn dilyn y gwneuthurwr ffilmiau Jazmin Jones ac Olivia Ross o Black Girls Code wrth iddynt chwilio am y fenyw ddu a ddarlunir ym meddalwedd Mavis Beacon Teaches Typing.
Am ddim ond rhaid cadw lle, manylion yma.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, e-bostiwch Kate Breeze safbwyntiau@amgueddfacymru.ac.uk i drefnu cymorth – mae cyllideb benodol ar gael ar gyfer mynediad, a allai gynnwys teithio, gofalwyr, cyfieithu (gan gynnwys BSL), neu archebu cadeiriau olwyn ac ati. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drafod eich anghenion mynediad er mwyn deall beth sy'n bosibl, ond ni fyddwn yn gofyn am 'dystiolaeth' ohonynt, rydym yn deall mai chi sy'n gwybod beth sydd ei angen arnoch i ymuno â ni.
*Amser gorymdaith
14:00 - 14:20 Perfformio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, o Oriel 15 drwy i'r neuadd fawr.14:20 - 15:00 cerdded i Ganolfan Celfyddydau Chapter trwy Barc Bute a strydoedd preswyl15:00 - 15:20 Perfformiad ym phrif fynedfa Chapter Os bydd glaw trwm, bydd y perfformiad yn digwydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter heb y gorymdaith trwy’r parc.
Bywgraffiad
Sain ysgafn sydd gan Warm Leveret, sef Emma Daman Thomas o'r band Islet. Fe glywch chi leisiau myfyriol, dolenni a'r delyn.
Mae Christine Mak wedi bod yn rhedeg ers 2017, mae hi'n arweinydd rhedeg cymwys ac yn rhedwr tywys gydag Athletau Cymru. Mae hi'n arwain Clwb Rhedeg Dal yn Dynn yn rhan o Dyfal Droi y Garreg.
Mae Rubie yn gantores, cyfansoddwr a storïwr sy'n byw yn Glasgow. Enillodd Rubie gystadleuaeth Next Wave End of the Road 2025, mae wedi agor i bobl fel Jasmine.4.t, Tom Rasmussen, Gentle Stranger a Dominie Hooper, ac mae wedi derbyn gwobr Next Level Help Musicians ddwywaith. Mae hi'n gweithio ar ei thrydydd albwm Like Bears, i'w ryddhau yn 2026.
Mae George H. Wale yn artist, dylunydd a gwneuthurwr o'r Fenni. Mae eu harfer amlddisgyblaethol yn rhychwantu cerflunio, gwaith tecstilau, perfformio byw a dylunio gwisgoedd ar gyfer dawns. Mae eu gwaith wedi'i gomisiynu a'i arddangos gan sefydliadau fel g39, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Mae Sophie Mak-Schram yn gweithio ar draws meysydd celf, ymchwil hanes celf ac addysgeg radical i ennyn diddordeb eraill mewn gwaith lle-benodol o amgylch pŵer, cydweithio, gwybodaeth a dyfodol. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.
Mae ei phrojectau diweddar yn cynnwys: Dyfal Droi y Garreg (2025-2026), comisiwn Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Stretching Thresholds, Holding Streams (2024-2025) mewn cydweithrediad â Jeanne van Heeswijk, a gomisiynwyd gan Amgueddfa Gelf Gyfoes Migros, y Swistir a Blueprints for Studies (2024) wedi'i gyd-guradu gyda Rahel Sphörer ym Mhrifysgol Zeppelin, yr Almaen.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd