Dewch i fwynhau profiad amgueddfa tawelach
Mae ein Awr Dawel yn cynnig cyfle i ymweld â’r orielau mewn amgylchedd heddychlon, gyda llai o sŵn a phethau sy’n tynnu sylw.
Os ydych chi eisiau ymweliad mwy hamddenol neu angen lle sy’n gyfforddus i’r synhwyrau dyma’r amser perffaith i archwilio, fyfyrio ac ymlacio.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod y Sesiynau Tawel:
• System docynnau sy’n sicrhau bod dim gormod o ymwelwyr
• Gweini diodydd mewn cwpanau papur
• Dim cerddoriaeth gefndir
• Ystafelloedd tawel i ymwelwyr eu defnyddio
• Amddiffynwyr clustiau a bagiau synhwyraidd ar gael i oedolion a phlant eu benthyg
• Cadeiriau olwyn ar gael i'w benthyg
• Diffodd y tannoi
• Diffodd y sychwyr dwylo yn y toiledau
• Staff wrth law i gefnogi yn ôl yr angen
Tocynnau
Rhaid archebu tocyn o flaen llaw.
Paratoi ar gyfer eich ymweliad: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru