Sgwrs:Goleuni Newydd ar Gwen John: Trafodaeth
Fel rhan o arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod llawn o sgyrsiau a thrafodaethau sy’n archwilio bywyd, gwaith a pherthnasedd parhaus un o artistiaid mwyaf unigryw Cymru.
Mae’r digwyddiad undydd hwn yn dod ag ynghyd guraduron, cadwraethwyr, artistiaid ac ymchwilwyr i rannu mewnwelediadau newydd i ymarfer Gwen John - o’i dulliau gofalus a’i defnydd o liw, i ddwyster ei gweledigaeth.
Gyda’n gilydd, byddwn yn cymryd amser i edrych yn fwy manwl, myfyrio’n ddyfnach, ac ystyried sut mae gwaith Gwen yn parhau i siarad â ni heddiw.
Ymhlith y siaradwyr mae:
- Lucy Wood, Curadur Gwen John: Hardd a Hynod
- Claire Curneen, artist cerameg gyfoes
- Fiona McLees, Uwch Gadwraethydd Papur
- Rachel Beard, Uwch Gadwraethydd Paentiadau Îsl
- Helena Anderson, ymchwilydd PhD (Prifysgol Bryste ac Amgueddfa Cymru)
- Dr Ceridwen Lloyd‑Morgan, Cyn Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gwybodaeth bellach
- Nid yw tocynnau i'r sgwrs yn cynnwys mynediad i'r arddangosfa. Rhaid prynu tocynnau arddangosfa ar wahân: Gwen John: Strange Beauties | Museum Wales
- Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ar ein gwefan mae gwybodaeth lleoliad a mynediad.
- Bydd drysau'r Ddarlithfa yn agor 30 munud cyn dechrau'r digwyddiad.
- Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu.
- Ni chaniateir bwyd na diod yn y Ddarlithfa.
- Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Gwybodaeth
© Amgueddfa Cymru — Museum Wales
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd