Digwyddiad:Iaith Arwyddion Prydain: Artes Mundi 11
Mae Artes Mundi yn partneru â rhwydwaith Ein Byd Gweledol i gyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o gyflwyniad Artes Mundi 11 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dan arweiniad tywysydd artistiaid Byddar proffesiynol, Emily Rose.
Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar ddangos, ei gyd-destun o fewn arddangosfa ehangach AM11 a chipolwg ar ymarfer a chefndir yr Artistiaid. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at amy.treharne@artesmundi.org
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd