Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Creu Amgueddfa'r Lleuad
Ymunwch â ni i weld yr artist blaengar Luke Jerram wrth iddo siarad am ei waith ysbrydoledig Amgueddfa'r Lleuad.
Bydd e hefyd yn siarad am ei waith fel artist a rhai o'r gweithiau anhygoel eraill mae wedi'u creu.
Amgueddfa'r Lleuad yn un o weithiau celf mwyaf llwyddiannus Luke. Mae wedi tanio dychymyg y cyhoedd ac hyd yn hyn, mae wedi'i gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd dros 300 o weithiau mewn 40 o wledydd gwahanol. Mae dros 30 miliwn o bobl ledled y byd wedi ei brofi, ac mae nawr yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Cynhelir y sgwrs hon yn yr Canolfan Ddarganfod Clore.
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Luke Jerram Amgueddfa'r Lleuad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd