Digwyddiad:Sinema Amgueddfa: Singin' in the Rain (U)
Dewch draw i Amgueddfa Cymru i fwynhau cyfle unigryw i ymgolli yn oes aur y sinema eto!
Bydd Darlithfa hanesyddol ac atmosfferig Reardon Smith yn cael ei gweddnewid yn gartref i sêr y sgrin arian. Gadewch i dywyswyr Kitsch & Sync Collective eich arwain i'ch seddi i fwynhau gwledd o berfformiadau, gan gynnwys yr uchafbwynt, clasur ddiamser 1952 ‘Singin’ in the Rain’.
Beth i'w ddisgwyl?
- Byddwch chi'n cael eich tywys i'ch seddi gan ddawnswyr Kitsch & Sync Collective fydd yn diddanu gyda'u dawnsio ditsy cyn i'r ffilmiau ddechrau.
- Yn dilyn hyn bydd noson sinema draddodiadol, gan gynnwys clasur cartŵn
- Gall unrhyw un â dant melys brynu popcorn, losin a diodydd o'r bar bach.
- Bydd y Ddarlithfa'n cael ei gweddnewid gyda cherddoriaeth amserol a delweddau o'r Amgueddfa o'r cyfnod hefyd.
- Caewch y drysau yn y cefn os gwelwch yn dda... mae'r ffilm ar fin dechrau yr haf yma!
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Manylion llawn a gwybodaeth hygyrchedd.
- Bydd y digwyddiad yn para tua 150 munud. Mae croeso i chi adael y Ddarlithfa a dychwelyd unrhyw bryd. Bydd egwyl o ddeutu 15 munud.
- Bydd y drysau'n agor 30 munud cyn i'r ffilmiau ddechrau.
- Bydd isdeitlau Saesneg ar gyfer y brif ffilm.
- Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu.
- Rhaid i unrhyw blant fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi prynu tocyn.
- Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Gwybodaeth
Credyd: IVY Promotions
Credyd: IVY Promotions
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 27 Chwefror 2027 | 14:00 | Gweld Tocynnau |
| 27 Chwefror 2027 | 19:00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd