Digwyddiad:Amster Stori gyda Babis Bach Babies

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Yr haf hwn, mae'n bleser gan Amgueddfa Cymru groesawu Babis Bach Babies yn ôl ar gyfer cyfres arbennig iawn o sesiynau adrodd straeon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

Ymunwch â ni i fwynhau clasur Rod Campbell, Annwyl . Dewch i weld beth mae'r wedi anfonanifail anwes perffaith ... yn y diwedd! 

Bydd y sesiynau hyn yn cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg mewn ffordd greadigol i greu profiad hudolus, dwyieithog. 

Mae Babis Bach Babies yn cyfuno cerddoriaeth fyw gan gerddorion clasurol profiadol ag adrodd straeon rhyngweithiol. Nod eu sesiynau yw cefnogi addysg y blynyddoedd cynnar drwy annog dysgu iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg, cyflwyno themâu amserol drwy gân a symudiad a datblygu hyder drwy gymryd rhan.  

Gwybodaeth Gyffredinol 

  • Mae pob sesiwn yn addas ar gyfer plant hyd at 7 oed. 
  • Bydd pob sesiwn, oni bai ein bod ni'n nodi fel arall, am 10.30am, 12.30pm a 2.30pm. 
  • Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Ystafelloedd Oriel, sydd i lawr y grisiau o'r Brif Neuadd. Mae cyfleusterau newid, bwydo ar y fron a thoiledau i gyd i lawr y grisiau. 
  • Mae llefydd ar gyfer bygis y tu allan i Ystafelloedd Oriel. 
  • Bydd sesiynau hamddenol hefyd yn cynnwys pecynnau synhwyraidd sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Gallwch chi eu harchebu a'u casglu o'r Dderbynfa. Mae hefyd ystafell dawel wrth ymyl yr Ystafelloedd Oriel. 
  • £12.50 i un oedolyn ac un plentyn. £8 am docynnau ychwanegol i oedolion/plant. Gallwch chi brynu tocynnau ychwanegol unwaith y bydd y tocynnau mynediad yn y fasged siopa ar-lein. 
  • Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Allwn ni ddim cynnig ad-daliad am docynnau nac ychwaith gyfnewid tocynnau am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi 100% yn hapus gyda'ch dewisiadau cyn archebu. 

 

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery. 

 

Gwybodaeth

31 Gorffennaf 2026, 10:30yb; 12.30yp; 2.30yp
Pris £11.00 (Oedolion a Plentyn); £8.00 (Oedolyn neu Plentyn ychwanegol); Tocynnau HYNT ar gael
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Sesiynau Cymraeg, Saesneg ac ymlaciedig
Fenyw yn chwarae'r telyn i grwp o blant bach
Logo Babis Bach Babies - amlinell o ben plentyn yn du a gwyn

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau