Digwyddiadau:Babis Bach Babies

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae'n bleser gan Amgueddfa Cymru groesawu Babis Bach Babies yn ôl ar gyfer cyfres arbennig iawn o sesiynau adrodd straeon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. ⁠ ⁠

P'un a ydych chi'n nofio ar gynffon morfil, yn cwrdd ag anifeiliaid yn y sŵ neu'n hedfan ar gefn ysgub; paratowch ar gyfer eich antur adrodd straeon nesaf yn yr Amgueddfa!

Mae Babis Bach Babies yn cyfuno cerddoriaeth fyw gan gerddorion clasurol ag adrodd straeon rhyngweithiol. Nod eu sesiynau yw cefnogi addysg y blynyddoedd cynnar drwy annog dysgu iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg, cyflwyno themâu amserol drwy gân a symudiad a datblygu hyder drwy gymryd rhan.

Mae'r sesiynau yn hamddenol* a bydd yn cymysgu Cymraeg, Saesneg a BSL**.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Babis Bach Babies | Cerddoriaeth fyw i fabanod a phlant

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Mae pob sesiwn yn addas ar gyfer plant hyd at 7 oed.
  • Bydd pob sesiwn, oni bai ein bod ni'n nodi fel arall, am 10.30am, 12.30pm a 2.30pm.
  • Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Ystafelloedd Oriel, sydd i lawr y grisiau o'r Brif Neuadd. Mae cyfleusterau newid, bwydo ar y fron a thoiledau i gyd i lawr y grisiau.
  • Mae llefydd ar gyfer bygis y tu allan i Ystafelloedd Oriel.
  • Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Allwn ni ddim cynnig ad-daliad am docynnau nac ychwaith gyfnewid tocynnau am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi 100% yn hapus gyda'ch dewisiadau cyn archebu.

*Beth yw ‘Sesiwn Hamddenol’?

Mae’r sesiwn hamddenol wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sy'n elwa o amgylchedd mwy hamddenol, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, sensitifrwydd synhwyraidd neu anableddau dysgu. ⁠⁠

Bydd sesiynau hamddenol hefyd yn cynnwys pecynnau synhwyraidd sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Gallwch chi eu harchebu a'u casglu o'r Dderbynfa.

Gallwch chi ddod o hyd i Wybodaeth Mynediad ychwanegol ar gyfer Amgueddfa Cymru drwy'r ddolen hon: ⁠Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru

**Sesiynau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Bydd y sesiynau ar y 24 Hydref a 5 Rhagfyr yn cael eu cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane-Kouyaté am y sesiynau 2.30yp.

Dyma flas ar ein sesiynau yn 2026 ... 

Babis Bach

© Matthew Horwood a BookTrust Cymru

Babis Bach

© Matthew Horwood a BookTrust Cymru

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau