Digwyddiad:Datganiad Misol ar yr Organ
Ymunwch gyda ni am gyfres o ddatganiadau organ ar organ hanesyddol yr amgueddfa
Dydd Gwener olaf pob mis, rydym yn croesawu llu o artistiaid i'r amgueddfa ar gyfer cyngerdd amser cinio am ddim yn ein horiel fawreddog. Byddwn yn croesawu:
27 Chwefror | Thomas Howell
27 Mawrth | Relf Clark
24 Ebrill | Robert Court
29 Mai | Philip Aspden
26 Mehefin | John Cheer
31 Gorffennaf | Jeff Howard
28 Awst | Aaron Shilson
25 Medi | Stephen Moore
30 Hydref | Kevin Holmes
27 Tachwedd | Robin Baggs
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae angen tocynnau gan fod capasiti cyfyngedig
- Bydd pob datganiad yn para tua 30-40 munud.
Cynhelir y digwyddiad yn Oriel 4. - Bydd cynorthwywyr Profiad Ymwelwyr wrth law i'ch tywys o'r Neuadd Fawr.
- Bydd y caffi bar ar agor ar gyfer diodydd alcoholaidd, diodydd a byrbrydau.
- Nodwch nad oes caniatâd i fwyd na diod ym mannau’r oriel.
- Am ragor o wybodaeth am fynediad i’r Amgueddfa, ewch i: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru
Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
© Amgueddfa Cymru — Museum Wales
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 28 Awst 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 25 Medi 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 30 Hydref 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 27 Tachwedd 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Ionawr 2027 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 26 Chwefror 2027 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 26 Mawrth 2027 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd