Digwyddiad:Amgueddfa Dros Nos: O Dan Yr Haul

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Dewch am noson fythgofiadwy yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – cewch ddarganfod beth sy’n digwydd wedi iddi nosi ac aros dros nos.

Dyma fydd yn digwydd...

  • Gosod eich sach gysgu o dan Yr Haul!
  • Neu, dewiswch fod yn VIP a chysgu'n braf yn ein horielau Hanes Natur ac Esblygiad Cymru. Brysiwch, mae llefydd yn brin!
  • Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd deinosoriaid yn deyrn.
  • Cyfarfod deinosoriaid cyfeillgar mewn sioe i’w chofio, perffaith ar gyfer y teulu cyfan.
  • Gweithdai crefft – creu fersiwn eich hun o’r haul!
  • Cwtsho mewn a gwylio ffilm yn ein theatr fawreddog, y Reardon Smith.
  • Yn y bore bydd pawb yn deffro gyda'r wawr am frecwast cyn crwydro’r orielau'r Amgueddfa cyn i'r torfeydd gyrraedd, cyn dychwelyd i'r 21ain ganrif a bywyd bob dydd.

Dyma'r digwyddiad fwyaf perffaith i'r teulu yr haf yma yng Nghaerdydd. Nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn berffaith i blant 6-12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn gyda thocyn. Ni ellir ad-dalu tocynnau.

Mae croeso i chi ddod â matiau cysgu a gwelyâu aer, ond darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i ddeall y cyfyngiadau.

 

Gwybodaeth

22 a 23 Awst 2026, 5.30pm tan bore Ddydd Sul!
Pris O £70.00 y person
Addasrwydd Yn addas ar gyfer oedrannau 6 - 11 a'u teuluoedd!
Plant yn gorwedd ar y llawr gyda torsys

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau