Digwyddiad:Gwyddoniaeth yr Haul gyda Jon Chase
Mae pethau'n poethi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf gyda'n sioe rap-wyddoniaeth newydd: Gwyddoniaeth yr Haul gyda Jon Chase!
Ymunwch â'r awdur a'r cyflwynydd, Jon Chase, ar daith gyffrous i ddysgu mwy am wyddoniaeth y seren enwocaf un ... yr Haul!
Byddwch chi'n ...
- Teithio drwy ddeg miliwn o flynyddoedd, gan ddilyn oes gyfan yr Haul
- Dysgu pam fod yr Haul yn hollol anferth ... ond eto'n gorrach
- Darganfod fod golau'r haul yn llawer hŷn na'r disgwyl
Galwch draw'r haf hwn wrth i ni gyfuno ffeithiau fflamboeth ac odlau anhygoel yn Narlithfa hanesyddol Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am y sioe gwyddonol anyhogel hon.
Cyflwynydd gwyddoniaeth, awdur a rapiwr sy'n gweithio yng Nghaerdydd yw John Chase. Mae'n angerddol am feddwl yn wyddonol, ac yn credu dylai gwybodaeth fod o fewn cyrraedd i bawb. Mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys y BBC a NASA, i gynhyrchu raps gwyddonol a gweithdai, ac mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y Society for Popular Astronomy.
Dewch i ddweud helo wrth Helios yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Helios | Museum Wales
Rhagor o wybodaeth
- Mae'r sioe yn addas i'r teulu cyfan, ond efallai bydd plant 7+ yn mwynhau mwy. Bydd y sioe yn para 50 munud.
- Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth lleoliad a hygyrchedd ar ein gwefan.
- Bydd drysau'r theatr yn agor 30 munud cyn y digwyddiad. Cofiwch gael eich tocyn yn barod.
- Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu.
- Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.
Gall y sioe gynnwys synau uchel, goleuadau'n fflachio, a chyfle i'r gynulleidfa ymuno. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd