Digwyddiad:Sesiynau Tawel Yr Haul

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Dewch i fwynhau profiad amgueddfa tawelach.

Mae ein Awr Dawel yn cynnig cyfle i ymweld â’r orielau mewn amgylchedd heddychlon, gyda llai o sŵn a phethau sy’n tynnu sylw.

Os ydych chi eisiau ymweliad mwy hamddenol neu angen lle sy’n gyfforddus i’r synhwyrau dyma’r amser perffaith i archwilio, fyfyrio ac ymlacio.

Beth i’w ddisgwyl yn ystod y Sesiynau Tawel:

  • System docynnau sy’n sicrhau bod dim gormod o ymwelwyr
  • Gweini diodydd mewn cwpanau papur
  • Dim cerddoriaeth gefndir
  • Ystafelloedd tawel i ymwelwyr eu defnyddio
  • Amddiffynwyr clustiau a bagiau synhwyraidd ar gael i oedolion a phlant eu benthyg
  • Cadeiriau olwyn ar gael i'w benthyg
  • Diffodd y tannoi
  • Diffodd y sychwyr dwylo yn y toiledau
  • Staff wrth law i gefnogi yn ôl yr angen

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery. 

Loteri Cod Post y Bobl mewn llythrennau coch a fras

Gwybodaeth

Sawl dyddiad ar gael
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Mae'r haul yn disgleirio yn neuadd Amgueddfa, mae darluniau celf ar y wal gyda pobl yn cerdded o gwmpas yr haul

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau