Digwyddiad:Sinema Amgueddfa: Miracle on 34th Street (U)

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dewch draw i Amgueddfa Cymru i fwynhau cyfle unigryw i ymgolli yn oes aur y sinema. ⁠ 

Bydd Darlithfa hanesyddol ac atmosfferig Reardon Smith yn cael ei gweddnewid yn gartref i sêr y sgrin arian. Gadewch i dywyswyr Kitsch & Sync Collective eich arwain i'ch seddi i fwynhau gwledd o ffilmiau Nadoligaidd, gan gynnwys yr uchafbwynt, clasur ddiamser 1947: Miracle on 34th Street.

Beth i'w ddisgwyl? 

  • Byddwch chi'n cael eich tywys i'ch seddi gan ddawnswyr Kitsch & Sync Collective fydd yn diddanu gyda'u dawnsio cyn i'r ffilmiau ddechrau. 
  • Yn dilyn hyn bydd noson sinema draddodiadol, gan gynnwys ffilm fer a phrif ffilm.
  • Gall unrhyw un â dant melys brynu popcorn, losin a diodydd o'r bar bach. 
  • Bydd y Ddarlithfa'n cael ei gweddnewid gyda cherddoriaeth amserol a delweddau o'r Amgueddfa o'r cyfnod hefyd.  

Caewch y drysau yn y cefn os gwelwch yn dda... mae'r ffilm ar fin dechrau!

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Manylion llawn a gwybodaeth hygyrchedd. 
  • Bydd y digwyddiad yn para tua 3 awr. Mae croeso i chi adael y Ddarlithfa a dychwelyd unrhyw bryd. 
  • Bydd y drysau'n agor 30 munud cyn i'r ffilmiau ddechrau. 
  • Bydd isdeitlau Saesneg ar gyfer y brif ffilm. 
  • Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu. 
  • Rhaid i unrhyw blant fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi prynu tocyn.  

Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu. 
 

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru. 

Gwybodaeth

13 Rhagfyr 2026, 2yp a 7yn
Pris £12.00 Cyffredinol; Tocynnau gostyniedig ar gael
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Ar werth o 20fed o Awst
Logo Sinema Amgueddfa
Tywyswyr sinema yn mynd i mewn i sinema =hen ffasiwn

Credyd: IVY Promotions

Credyd: IVY Promotions

Credyd: IVY Promotions

tair fenyw yn wisgo coch
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio. 

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau