Cwrs:Dewch i Fraslunio

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Darganfyddwch y casgliad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn profiad darlunio creadigol a myfyriol. ⁠ ⁠ 

Dan arweiniad yr artist Marion Cheung, ymunwch â ni am weithdy myfyriol lle byddwch chi'n ymarfer darlunio gwrthrychau syml, gan ymgysylltu'n gyfan gwbl â churaduron yr Amgueddfa a'r casgliad hanesyddol gan artistiaid byd-enwog sydd anaml yn cael eu gweld gan y cyhoedd. 

Mae'r sesiwn hon, sy'n addas i ddechreuwyr, yn canolbwyntio ar dechnegau arsylwi syml; gan ganolbwyntio ar harddwch siapiau, cyn eich ysbrydoli i ddarganfod eich llais creadigol eich hun drwy ganolbwyntio ar ddelweddau, sain a'r dychymyg.

Cynhelir y sesiwn hon yn Oriel 15 gyda'i casgliadau newydd, sy'n cynnwys cerfluniau syfrdanol gan artistiaid fel Degas a Rodin.

Mae croeso i bawb, a bydd yr holl ddeunyddiau yma i chi, er bod croeso i chi ddod â'ch rhai eich hun. Mae croeso i chi ymweld â'n siop yn yr Amgueddfa lle mae amrywiaeth o lyfrau braslunio a phensiliau ar gael.  

Mae Marion Cheung yn artist cain ac addysgwr gyda dros 30 mlynedd o brofiad proffesiynol. Mae lluniadu yn sail i'w phroses greadigol, gan ffurfio sylfaen ymarfer cyfryngau cymysg sy'n archwilio tirwedd, cof a thrawsnewid. Mae ei gwaith wedi'i gadw yng nghasgliad Celf ar y Cyd a Phrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth bwysig

  • Er bod croeso i chi ddod â'ch rhai eich hun, bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn. Dim ond pensiliau sy'n cael eu caniatáu yn yr orielau a dim deunyddiau eraill ar gyfer gwneud celf. 
  • Bydd y sesiwn yn para 3 awr gydag egwyl fach. 
  • Bydd caffi'r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm, ond yn anffodus nid oes modd dod â bwyd a diod i mewn i'r orielau. 
  • Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg. 
  • Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu. 
  • Gall cynnwys a lleoliad y gweithdy newid ar fyr rybudd. 

Gwybodaeth

30 Medi 2026, 2yp - 5yp
Pris £40.00 Cyffredinol
Addasrwydd Oedolion
Blaen adeilad yr amgueddfa, hanner ffotograff, hanner sgets.
Marion Cheung, yr artist, yn eistedd yn ei stiwdio
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
30 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio. 

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau