Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Crochenwaith Rhufeinig

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Beth sy’n nodweddiadol am archaeoleg y cyfnod Rhufeinig yw ein bod ni’n gweld crochenwaith wedi’i fasgynhyrchu am y tro cyntaf. Dyma gyfle i weld y mathau o grochenwaith fyddai wedi cael eu defnyddio yng Nghymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Dewch i ddysgu sut mae archaeolegwyr yn ei ddefnyddio fel tystiolaeth o fywyd bob dydd, a hefyd ar gyfer dyddio.

Gwybodaeth Bwysig

  • Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
  • Mae'r daith yn costio £8 y pen.
  • Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
  • Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
  • Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

18 Awst 2026, 2pm
Pris £8
Addasrwydd 12+
Detholiad o botiau Rhufeinig, gan gynnwys powlenni llwyd a chostrel frown.
Logo Postcode Lottery

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau