Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Derbyniadau Newydd o Gapel Sant Padrig, Sir Benfro; Datgelu Cymru a'r Byd ar ddechrau'r Oesoedd Canol.
Archwiliwch yr arteffactau sydd newydd eu derbyn i’r casgliad o Gapel Sant Padrig, sef capel Canoloesol Cynnar, Porth Mawr, Sir Benfro.
O gerrig cerfiedig godidog i dystiolaeth o waith metel a darnau mân o ambr o Sgandinafia, mae'r safle hwn yn datgelu cyfrinachau bywyd ar ddechrau'r Oesoedd Canol a sut roedd Cymru yn cysylltu â'r byd ehangach.
Byddwn yn adrodd stori ac esblygiad y fynwent Ganoloesol Gynnar a'i phobl. Byddwn hefyd yn edrych y tu ôl i'r llenni ar yr heriau o ddehongli, cadw a storio casgliadau archaeolegol cymhleth mewn amgueddfa.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd