Digwyddiad:Canolfan Ddarganfod Clore
Ymunwch â ni dros yr haf yng Nghanolfan Ddarganfod Clore.
Yn yr oriel ryngweithiol hon, mae gan ymwelwyr y cyfle i drin a thrafod gwrthrychau go iawn o'n casgliadau hanes natur gan gynnwys ffosiliau, gemau a thrychfilod.
Gallwch chi ddarganfod mwy am y gwrthrychau diddorol hyn drwy eu hastudio o dan ficrosgop gyda'r Tîm Addysgu wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Bydd taflenni lliwio ar gael hefyd i'r rhai sydd angen amser tawel.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd