Digwyddiad:Disgo Tawel
Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno: DISGO TAWEL yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae disgo tawel MWYAF Caerdydd ’nôl nos Sadwrn, 10 Hydref, gyda’n digwyddiadau i deuluoedd ac i oedolion yn unig!
Dewch i ddawnsio a chanu drwy’r nos o dan nenfwd eiconig cyntedd yr amgueddfa wrth i’n DJs preswyl frwydro am deyrngarwch eich clustiau!
Gyda thair sianel o wahanol gerddoriaeth i ddewis ohonyn nhw, bydd rhywbeth at ddant pawb, felly dyma’ch cyfle i ddangos eich mŵfs yn un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas!
DIGWYDDIAD I’R TEULU (6pm - 8pm)
Croeso i bobl o bob oed, ond mae’r clustffonau wedi’u dylunio i ffitio pobl 5+ oed
Rhaid i unrhyw un o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG (9pm - 12am)
Mae hwn yn ddigwyddiad i bobl 18 oed a hŷn.
Bydd y gwesteion yn profi:
- Lleoliad eiconig: Nid bob dydd y cewch chi gyfle i ddawnsio drwy’r nos yn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru!
- Tri DJ yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth: Chi sy’n dewis y gerddoriaeth rydych chi am wrando arni drwy bwyso botwm ar eich set eich hun o glustffonau â goleuadau LED! Pa dîm fyddwch chi - coch, gwyrdd neu las?
- Bar bach DIM GWASTRAFF Motel Nights: Gadewch eich arian parod gartref! Yr unig blastig ar ein bar ni yw eich cerdyn banc; mae ein bar dim gwastraff yn gweini amrywiaeth o ddiodydd mewn caniau, sy’n dda i’ch cyfrif banc ac i’r blaned.
- Profiad sy’n gwerthu allan: Fe wnaeth ein digwyddiad diwethaf WERTHU ALLAN yn gyflym iawn, felly peidiwch â phendroni gormod! Bachwch eich tocynnau tra gallwch chi.
- Cynhyrchiad o safon: Rydyn ni’n mynd yr ail filltir ar gyfer y digwyddiad yma, gyda thechnegwyr goleuo arbenigol a nifer o beli disgo, wrth gwrs!
Gwybodaeth arall:
- Mae’n bosib y bydd goleuadau strôb a ffotograffiaeth fflach yn cael eu defnyddio drwy gydol y digwyddiad.
- Rydyn ni’n tynnu lluniau a fideos o’r digwyddiad at ddibenion marchnata a hyrwyddo.
- Rhaid i unrhyw un o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
*Mae'r delweddau yn ddangos Amgueddfa'r Lleuad gan Luke Jerram sydd bellach ddim ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Gwybodaeth
Credit: Coal Poet Media
© Coel Poet Media*
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd