Digwyddiad:Agor yn Gynnar – Hanner Marathon Caerdydd
Byddwn yn agor ein drysau yn gynnar fore Hanner Marathon Caerdydd, i'r rhai sy'n dymuno cael profiad tawelach cyn y ras. Bydd tocynnau'n rhoi mynediad i chi i'r amgueddfa, a lle cyfforddus i ymlacio cyn i'r digwyddiad ddechrau. P'un a ydych chi'n cymryd rhan yn y ras neu'n cefnogi ffrind neu aelod o'r teulu, gallai ein hamgylchedd tawel fod yr union ddechrau sydd ei angen arnoch chi.
O 7am, gallwch grwydro drwy ein horielau hanes natur neu ymlacio gyda phaned. Bydd diodydd poeth ac oer a rholiau brecwast ar werth yn ein caffi tan 10am.
Byddwn yn cynnal gweithgaredd gwneud baneri i blant yng Nghanolfan Ddarganfod Clore i’w helpu i gefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan yn y ras. Mae hwn yn weithgaredd am ddim, ond llefydd yn gyfyngedig. Archebwch eich tocynnau ar gyfer y sesiynau hyn ar ôl i chi ychwanegu eich tocynnau mynediad at eich basged.
Bydd ein cyfleusterau arferol ar agor, gan gynnwys toiledau hygyrch, cyfleuster lleoedd newid, ystafell aml-ffydd (y gallwch ei harchebu ymlaen llaw) ac ystafell bwydo ar y fron.
*Byddwn ar agor fel arfer i'r cyhoedd o 10am ymlaen. Bydd ein horielau celf ar gau rhwng 7am a 10am.
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 4 Hydref 2026 | 07:00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd