Sgwrs:Tu ôl i’r Llen: Potiau a Phobl Cynhanesyddol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd y daith hon o amgylch y llestri yn y Storfeydd Archaeoleg yn gyflwyniad gweledol i’r llestri serameg cyflawn oedd yn cael eu claddu gyda phobl ledled Cymru yn ystod yr Oes Efydd Gynnar, tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. 


Beth allai’r potiau addurnedig hyn sydd mor amrywiol o ran eu siâp ei ddweud wrthym am y byw a’r meirw? Beth allent ei ddweud am gredoau’r teuluoedd a’r cymunedau a’u creodd nhw a’u claddu? Sut mae archaeolegwyr yn defnyddio’r gwrthrychau gwerthfawr hyn i wella ein dealltwriaeth o’r gorffennol cynhanesyddol pell hwn yng Nghymru? 
Adam Gwilt, curadur y casgliad archaeoleg cynhanesyddol yn Amgueddfa Cymru, fydd yn arwain y daith diddordeb cyffredinol hon.

Gwybodaeth Bwysig

  • Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
  • Mae'r daith yn costio £8 y pen.
  • Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
  • Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
  • Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

25 Tachwedd 2026, 12pm a 2pm
Pris £8
Addasrwydd 12+
x
Logo Postcode Lottery

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
25 Tachwedd 2026 12:00 Gweld Tocynnau
25 Tachwedd 2026 14:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio. 

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau