Digwyddiad:Cyngerddau'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Hydref 2026

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlathol Caerdydd gyda chyfres o gyngherddau am ddim. 

Mae rhaglen yr hydref a'r gaeaf yn cynnig cymysgedd cyffrous o weithiau clasurol a chyfoes o ledled y byd, a berfformir gan fyfyrwyr cerdd presennol y goleg. Gall cynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth o berfformiadau cerddoriaeth fyw mewn gwahanol fannau ledled yr amgueddfa, gan ddathlu gwyliau cenedlaethol ochr yn ochr â phrofiadau cerddorol unigryw sy'n dod â'r casgliad yn fyw. 

Bydd ein cyfres  yn cynnwys: 

Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon | 21 Hydref (1pm) | Y Brif Neuadd 

Bydd myfyrwyr RWCMD yn perfformio caneuon a cherddoriaeth offerynnol gan gyfansoddwyr du o'r 19eg ganrif hyd at yr 21ain ganrif. Mewn grwpiau bach a mawr, dewch i wrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr fel Samuel Coleridge-Taylor, Florence Price a Valerie Coleman, ymhlith eraill. 

Rhagor o wybodaeth: 

  • Nid oes angen tocyn arnoch ar gyfer y digwyddiad hwn. 
  •  Mae pob cyngerdd yn para rhwng 30 a 45 munud. 
  •  Bydd rhaglenni ar gael trwy godau QR. 
  •  Bydd nifer cyfyngedig o seddi ar gael a byddwn yn blaenoriaethu'r rhai sydd ag anghenion arbennig. Ond mae croeso i chi sefyll a gwylio hefyd. 
  •  Yn anffodus, ni chaniateir bwyd na diod yn yr orielau. 
  •  Sylwch y gall cynnwys a lleoliad y cyngherddau newid ar fyr rybudd

Gwybodaeth

21 Hydref 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Nid oes angen tocyn ar gyfer y digwyddiad yma

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio. 

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau