Digwyddiad:Perfformiadau Cerddoriaeth yr Wyl

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal 8 cyngerdd am ddim yn ein prif neuadd fel rhan o’n dathliadau Nadolig eleni. Ymunwch â ni drwy gydol y tymor i fwynhau perfformiadau gan amrywiaeth o grwpiau cerddoriaeth Cymreig lleol. 

Does dim angen archebu tocyn ymlaen llaw. Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni drwy fachu diod boeth a mwynhau cerddoriaeth yr ŵyl yn ein prif neuadd yn ei holl ogoniant Nadoligaidd.

⁠Bydd nifer fach o seddi ar gael i’r rheiny sydd eu hangen. Os oes gennych chi anghenion mynediad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy e-bostio caerdydd@amgueddfacymru.ac.uk

Dyddiadau ac amseroedd perfformiadau: 

Allegra Choir

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

Cardiff Stage Choir

Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

Cerddorfa Symffoni Dinas Casnewydd

Dydd Sul 6 Rhagfyr, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

South Wales Gay Men’s Chorus

Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

Superchoir

Dydd Sul 13 Rhagfyr, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

Canu Gyda Chôr Amgueddfa Cymru Caerdydd

Dydd Iau 17 Rhagfyr, 1pm - 2pm

Band Pres Y Waun Ddyfal 

Dydd Sadwrn 19 Rhagfyr, 11.30am-12pm ac 1pm-1.30pm⁠ ⁠

Capital Youth Music 

Dydd Sul 20 Rhagfyr, 2pm-3pm⁠ ⁠ 

Gwybodaeth

28 Tachwedd, 5–6, 12–13, 17 a 19–20 Rhagfyr 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
AGC cromen y brif neuadd gyda addurniadau Nadolig
AGC Côr y Nadolig

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Tan Dydd Sul 1 Tachwedd 2026

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

Oriau Agor y Gaeaf — O Dydd Llun 2 Tachwedd 2026

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–4 pm
Dydd Mercher 10 am–4 pm
Dydd Iau 10 am–4 pm
Dydd Gwener 10 am–4 pm
Dydd Sadwrn 10 am–4 pm
Dydd Sul 10 am–4 pm
orielau yn cau am 3.45pm.

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio. 

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau