Arddangosiad:Y Cynfas Byw: Gwisgo Canrif
Galwch heibio i weld gwisgoedd hanesyddol wedi'u dehongli a'u creu yn seiliedig ar bortreadau yn ein casgliad gan fyfyrwyr Creu Gwisgoedd Coleg y Cymoedd.
Bydd y paentiadau sy'n addurno waliau'r orielau celf yn dod yn fyw ar ôl misoedd o ymchwil hanesyddol a gwaith manwl gan y myfyrwyr.
Bydd y myfyrwyr yn siarad am eu gwisgoedd o flaen y portreadau a ddewiswyd ganddynt yn yr orielau celf am:
2.00pm Bydd sioe ffasiwn a beirniadu’n digwydd yn Oriel 4. Bydd seddi ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae'r BA (Anrh) mewn Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd yn gwrs gradd tair blynedd a ddyfernir gan Brifysgol De Cymru. Mae myfyrwyr yn astudio gwisgoedd hanesyddol a chyfoes, ac yn datblygu ystod eang o sgiliau arbenigol fel torri patrymau, creu gwisgoedd ac addurno arwynebau.
Mwy o Wybodaeth
- Bydd seddi ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
- Bydd caffi'r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm, ond yn anffodus nid oes modd dod â bwyd a diod i mewn i'r orielau.
- Gall rhannau o'r digwyddiad olygu y bydd angen i chi gerdded i leoedd ychwanegol ledled yr amgueddfa. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd