Ymweld Am Ddim

Oriau Agor

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

 

Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: caerdydd@amgueddfacymru.ac.uk

Cyfeiriad

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

 

Map a Sut i Gyrraedd Yma

 

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Cyfleusterau

Mae loceri ar gael ar gyfer storio bagiau yn ystod ein oriau agor rhwng 10yb a 5yh. Fe'u gweithredir gyda tocynnau sydd ar gael yn ein Desg Groeso am flaendal y gellir ei ad-dalu o £1.

Mae gennym hefyd ardal storio ychwanegol sy'n addas ar gyfer cês neu fagiau mawr. Ni ellir gadael unrhyw eiddo yn yr Amgueddda dros nos. I ddefnyddio’r gwasanaeth yma, gofynnwch i’n staff ar y Ddesg Groeso. Gofynnwn yn garedig am rhodd o £5 am y cyfleustra.

Caniateir cadeiriau gwthio a phramiau yn yr Amgueddfa, ond gellir eu gadael hefyd mewn parc bygi yn y Brif Neuadd.

Beth fyddwch chi’n ei weld wrth ymweld â ni

Bydd eich ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn wahanol i’r arfer, ond gobeithiwn y byddwch yn mwynhau:

  •  Ymweld ag orielau Esblygiad Cymru a Gwyddorau Naturiol ar y llawr gwaelod.
  • Ar y llawr uchaf, mae’r orielau celf wych ar agor. Yma, cewch weld gweithiau gan Botticelli, Richard Wilson, Rembrandt a mwy.

Beth fyddwch chi ddim yn gallu’i weld

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol parhaus i rai o’n horielau, bu’n rhaid i ni neud newidiadau ac mae rhai o’n horielau celf yn parhau i fod AR GAU. Cysylltwch â ni. I arbed siom, gallwch archwilio'r orielau celf yn llawn ar-lein i weld a fydd darn penodol o waith celf yn cael ei arddangos cyn eich ymweliad.

  
 

Mae Canolfan Ddarganfod Clore nawr dim ond ar gael ar gyfer ysgolion a sefydliadau cymunedol sydd wedi'u harchebu ymlaen llaw wrth i ni barhau i chwilio am ffyrdd gwahanol o ddefnyddio ein gofodau. Darganfod mwy yma

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Grwpiau

Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.

Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio addysg@amgueddfacymru.ac.uk am y manteision canlynol:

  • Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).

Ydw i’n gallu dod a’r ci?

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa. 

Eiddo Coll

Cysylltwch gyda ni i holi am eiddo coll. Yn anffodus, ni allwn gadw eitemau personol am fwy na pythefnos.

Camu 'Mlaen yn Amgueddfa Cymru

Ydych chi'n cyfri’ch camau bob dydd?

Hoffech chi wybod faint o gamau rydych yn eu cymryd wrth ymweld â'n hamgueddfeydd?

Rydym yn gwybod bod ymarfer corff, awyr iach a darganfod pethau newydd yn dda i'n lles corfforol a meddyliol.
Mae ymgyrch Camu ‘Mlaen Amgueddfa Cymru yn eich helpu chi i ddewis pa lwybrau ac ardaloedd i’w crwydro, wrth gyfri eich camau, darganfod pethau newydd ac ymgolli mewn diwylliant a hanes ar hyd y ffordd!

Efallai eich bod chi am fwynhau’r ardaloedd awyr agored yn Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, neu fynd ar antur dan ddaear yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Neu beth am archwilio'r orielau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?

Gyda phob math o lwybrau i’w dilyn, a'r camau wedi'u cyfri, beth am fynd amdani?

Cymrwch y cam cyntaf a mwynhau'r daith!

Camu 'Mlaen

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.

Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal: Dewch i ddarganfod stori Cymru