Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ac yn ceisio darparu profiad llawn mwynhad a boddhad. Dylai pob grŵp archebu cyn ymweld i’n galluogi i hwyluso'r ymweliad.
Gall grwpiau sy'n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a’r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Ffôn: (029) 2057 3240
I archebu taith tywys sain ddisgrifiad ar gyfer grwpiau o bobl sydd â nam ar eu golwg: (029) 2057 3315.
Bydd dilyn y canllawiau canlynol yn sicrhau bod yr ymweliad yn brofiad pleserus i bawb:
Mae lle parcio i ddau fws o flaen yr Amgueddfa. Yn ddelfrydol, dylid defnyddio'r rhain ar gyfer gollwng a chasglu ymwelwyr yn unig. Mae llefydd parcio i fysys ar Heol Corbett – gall Croeso Cymru gynnig rhagor o wybodaeth.
Mae maes parcio i ymwelwyr y tu ôl i'r Amgueddfa. Prynwch docyn parcio i adael y maes parcio am £6.50 yn siop yr Amgueddfa yn y Brif Neuadd. Mae parcio am ddim bobl â bathodyn anabledd. Ewch â'ch bathodyn i'r siop i gael tocyn parcio. Mae llefydd parcio ar Heol Gerddi’r Gorsedd o flaen yr Amgueddfa hefyd.
Mae siop yr Amgueddfa wedi'i lleoli yn y Brif Neuadd. Gall pob aelod o'r grwp hawlio gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa pan yn gwario mwy na £5. Gallwch cael eich hoff llun ar eich wal adre - gofynnwch am y gwasanaeth Argraffu yn ôl y Galw. Mae'r holl wariant yn y Siop yn cyfrannu at gostau cynnal yr Amgueddfa.
Mae Bwyty Oriel ar islawr yr Amgueddfa ar agor o 10am - 2.30pm ac yn gwerthu cinio cynnes ac oer o 12pm. Mae amrywiaeth o frechdanau a baguettes, cawl cartref, cacennau a diodydd poeth ac oer. Rydyn ni'n croesawu teuluoedd ac mae pecynnau cinio, prif brydau bach a phrydau arbennig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol ar gael i blant.
Mae'r Siop Goffi yn y Brif Neuadd ac yn lle gwych i fwynhau yr adeilad ei hun. Yma rydyn ni'n gwerthu dewis o gacennau cartref a brechdanau, ynghyd â diodydd poeth ac oer. Mae’r Siop Goffi ar agor 10.30am-4.30pm.
Cofiwch y gall pob aelod o'r grŵp hawlio gostyngiad o 10% yng nghaffi a bwyty'r Amgueddfa. Os ydych chi am i ni gadw byrddau ar eich cyfer yn y bwyty, ffoniwch 029 2057 3336.
Edrychwn ymlaen at groesawu eich grŵp i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!