Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Lewisiaid Dre-fach Felindre a'r Crochan o Aur yn y Domen Dail

Kate Davies (1892-1980)

Oeddech chi beth amser yn ôl [1972], doeddech chi, yn yr ysbyty [yng Nglangwili, Caerfyrddin], ac oedd 'na wraig o Dre-fach Felindre hefo chi 'no, Mrs Mann... Wel, nawr, roedd hi yn adrodd storïe wrthoch chi.

Odd.

Ac un o'r storïe oedd yr hanes yma - pobol y ffatrïe, Lewisied, ie?

Ie.

Wel, allech chi ddeud 'tha i, rwan, y stori fel clywsoch chi hi?

O, wel, odd hi'n gweud 'tho i nawr ryw ddwyrnod, a dech chi'n gwbod, nawr, ma'r hen Lewisied 'ma'n ddynion ariannog, wedi dod, chwel, trw'r ffatrïe 'ma. Ac odd hi'n gweud 'tho fi:

'Och chi'n gwbod nawr o le ma'r arian wedi dod?'

'Na wn i.' (Odd hi 'i hunan yn un o'r Lewisied trwy dylwyth 'i mham.) 'Na, dwi'm yn gwbod, wir.'

'Wel, weda'i 'thoch chi le geson nhw arian i ddechre', wedodd hi.

...Odd hen wraig yn byw yn Nant yr Hebog ac odd mab 'da hi o'r enw Henri. Ac, wrth gwrs (ma blynydde mowr oddiar hyn nawr), odd 'rhen wraig 'ma yn gwisgo fel Welsh Hat, a gwisgo shiol am 'i gwar - gwisgo Welsh Costume, gwisgo steil Welsh, ch'mod, y wisg Gymrâg. Ac fe fu farw'r hen wraig. Ac, wrth gwrs, hen fab gweddw odd yr Henri 'ma nawr. Ac fe briododd wedi iddo golli'i fam. A mhen sbel fach wedi iddo briodi odd e ar ben y [domen]. Wrth gwrs, ôn nhw amser 'ny, yn wahanol i maen nhw nawr, ôn nhw'n cadw tomen am flwyddyn neu ragor ar y clôs cyn mynd mâs â hi - tomen o - tail yr anifeilied. Ac odd e'n gweud: amser odd e'n dod adre ryw nosweth, fe welodd hen wraig a hat ar 'i phen, 'run peth â'i fam yn gywir, ar ben y domen, a fel 'te hi'n plygu lawr, fel 'te hi'n plannu rhwbeth ar wmed y domen. Âth i'r tŷ, gâs ofan, a wedodd wrth y wraig:

'O, wy 'di gweld rhwbeth ar ben y domen a wy'n credu ma hi run peth yn gywir â mam', wedodd e.

'Be sy arnat ti?' wedodd hi.

'Odw'n wir', medde fe. 'Dere mâs câl gweld.'

Ond welon nhw ddim byd. Odd hi wedi diflannu.

Ac aethon i watsho wedyn, câl gweld a ddaethe hi lweth. A fuodd y wraig ac ynte'n watsho sawl nosweth. Ac odd hi'n dod ambell waith, a gyda 'sen nhw'n mynd ati, odd hi'n diflannu. A beth odd hi'n neud - ôn nhw'n drychyd drannoth wedyn, ac odd hi fel bo' hi yn plannu rhwbeth yn y domen. A beth odd hi'n neud, odd codi pluf y gieir odd ar hyd y domen a'u plannu nhw, fel ring rownd. Odd hi'n dechre neud rhyw ring rownd ohonyn nhw. Ac ôn nhw'n trial 'i watsho hi bob nos. Ac ôn nhw'n 'i gweld hi wrthi. Ond cyn gynted ag aethen nhw'n agos ati, odd hi'n diflannu. Ac wedi iddi neud sawl nosweth felny, wedi iddi neud y lle fel ring rownd o'r pluf 'ma, welon nhw mohoni wedyn. Ac mi siaradon nhw â'i gilydd: 'Jiwc, mae e siŵr o fod yn rhyw arwydd gyda hi. Ma ishe i ni dwmlo'r domen câl gweld be sy 'na.' Ac aethon i ddachre twmlo'r domen, a ceson afel mewn crochan a'i lond e o arian melyn.

A dyna le câs y Lewisied, medde hi, ddychre i godi ffatrïe. Ac odd hi'n gweud 'tho i 'i fod e'n itha gwir. Alla 'im gweud rhagor na 'na nawr.

Lewisied -

Lewisied y ffatrïe - Dre-fach - ôn nhw'n ddigon enwog.

Recording

Lewisiaid Dre-fach Felindre a'r Crochan o Aur yn y Domen Dail

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 3892. Recordiwyd 16.vi.1973.

Nodiadau

Ni ddywedodd Mrs Mann o ble na chan bwy y cafodd yr hanes hwn am y Lewisiaid ac ni wyddai Kate Davies ragor am Mrs Mann, ac eithrio mai gwraig o Dre-fach Felindre ydoedd, ond yr oedd yn cofio un stori arall o'i heiddo: 'Ogof y Ffrancwyr a'r Gwenwyn yn y Cawl' (t?p AWC 3892).

Teipiau

ML 4023 (C) Y marw yn dychwelyd at eu teulu neu hen gartref.
ML 4031 (C) Ysbryd ar ffurf ddynol.

Motifs

ML 4031 (C) Ysbryd ar ffurf ddynol.