Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

'Mae Gen i iâr', medde Richards, Cefen-gâr...

Mary Thomas (1905-83)

'Mae gen i iâr', medde Richards, Cefen-gâr.
'Nagôs ddim', medde Morgan, T? Gwyn.
'Oes, yn wir', medde Piter, Pen-wern-hir.
'Mae wedi mynd i hedfan', medde Dic, Bron Berllan.
'Le câth hi fwyd?' ddwedodd Leisa, Llwyn Llwyd.
'Mae wedi mynd i ori', mynte Tomos, Bryn Coryn.
['I ble?' mynte Tomos, Pen-dre.
'I'r ffair', mynte Tomos, Llidiart Ffair.]
'Le câth hi wye?' mynte Jacob y Cloddie.
'Yn Tan-bryn', mynte Ianto Gwyn.
'Sawl cyw', mynte Leisa, Troed-rhiw.
'Giar a cheiliog', mynte Tomos, Cae Madog.
'Odyn nhw'n gryfion?' mynte Morgan, Dôl Ebolion.
'Eitha gwan', mynte Richard, Pen-lan. [Chwerthin]

[WT] Odd e'n gwitho'n dda, ond dodd e. Chi'n gwbod pwy odd e? William Jones - odd e'n cadw tafarn fan hyn, yn Pontrhydfendigaid, William Jones odd e. Ie, odd e'n gweitho'n dda, chi'n gwbod.

William Jones -

Red Lion, a mae 'i blant e'n byw fan hyn wedyn.

Ble ma'r Red Lion?

[WT] Tafarn fan hyn yn y Bont [Pontrhydfendigaid]. Wedi bod, ond mae e wedi marw ers blynydde. Ma mab iddo fe'n byw yn Bont, a merch iddo fe'n byw lan sha Tregaron. Ond fydde nhw'n gwbod dim am hwnna.

'Mae gen i iâr', medde Richards, Cefen-gar ... Nawr, y bobol 'ma -

Richard, Cefen-gâr, odd 'i dad e. Odd e'n byw yn Cefen-gâr. Billy Cefen-gâr odd 'i enw e, chwel - Billy, Cefen-gâr. Pan odd e'n grwt ifanc, odd e gatre yn Cefen-gâr ar y ffarm. A wedyn, mi wnâth y rhigwm yna am 'i dad. Ei dad e odd Rhisiart, Cefen-gâr ...

Tua pryd nâth o hwn, dech chi'n meddwl?

O, dim idea.

Cyn ych -

Cyn 'y nyddie i, amser odd e'n fachan ifanc.

Yn oes ych tad, ie?

Ie, yn oes 'y nhad. Ie, yn oes 'y nhad.

Recording

'Mae Gen i I

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6453; recordiwyd 5.v.1979.

Nodiadau

Cyfeirir yn y rhigwm cynyddol hwn at ffermydd a thyddynnod yn ardal Ffair-rhos, Pontrhydfendigaid ac Ystrad-fflur. Yn ôl Mary Thomas a'i phriod, William Thomas, dyma enwau a chyfenwau'r personau a grybwyllir: Richard Jones, Cefen-gâr, Ffair-rhos; Morgan Jones, Tŷ Gwyn, Ffair-rhos; Richard Hughes, Bron Berllan, Pontrhydfendigaid; Thomas George, Llidiart y Ffair, Ffair-rhos; Elizabeth Jones, Llwyn Llwyd, Ffair-rhos; Thomas Jones, Bryn Coryn; Jacob Jones, Cloddie; Thomas Lloyd (brawd i dad Mary Thomas), Cae Madog, Ystrad-fflur; Morgan (Jones?), Dôl Ebolion, Pontrhydfendigaid; Rhisiart (brawd i dad-cu Mary Thomas), Pen-lan, Ystrad-fflur.

Wrth holi Mary Thomas am y personau y sonnir amdanynt yn y rhigwm, ychwanegodd y llinellau a ganlyn a anghofiwyd ganddi pan adroddodd y pennill gyntaf:

'I ble?' mynte Tomos, Pen-dre.
'I'r ffair', mynte Tomos Llidiart Ffair.

Cynhwyswyd hwy yn y testun.

Adroddwyd y rhigwm cynyddol hwn gan Mary Thomas yn gyflym, gydag afiaith a hwyl.

Teipiau

Motifs