Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

'Mi Weda'i Wrthot Ti Stori ...'

Mary Thomas (1905-83)

Mi weda'i wrthot ti stori:
Hen gaseg yn pori;
Weda'i wrthot ti ddwy:
Hen gaseg ar y plwy;
Weda'i wrthot ti dair:
Hen gaseg yn y ffair;
Weda'i wrthot ti beder:
Hen gaseg yn rhedeg;
Weda'i wrthot ti bump:
Hen gaseg wedi torri gwynt;
Weda'i wrthot ti whech:
Hen gaseg yn taro rhech;
Weda'i wrthot ti saith:
Hen gaseg yn 'i gwaith;
Weda'i wrthot ti wyth:
Hen gaseg dan 'i llwyth;
Weda'i wrthot ti naw:
Hen gaseg yn y baw;
Weda'i wrthot ti ddeg:
Hen gaseg yn rhedeg.

Wel, wel, wel, dech chi'n cofio honna'n iawn. Pwy odd yn dysgu'r rhigwm 'na ichi?

O, clywed e, y rhigyma 'na, hwn a'r llall yn 'u gweud nhw, i chi'n gwbod.

Recording

'Mi Weda'i Wrthot Ti Stori ...'

Mwy o wybodaeth

Tâp

MWL 6454. Recordwyd 5.v.1979.

Nodiadau

Adroddwyd y rhigwm cynyddol hwn gan Mary Thomas gydag afiaith.

Teipiau

Motifs