Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl

Mary Thomas (1905-83)

Dwedwch hanes rwan, Mary Thomas, hanes angladd ych mam.

O ie, in i'n byw, in ni'n gweud wrthoch chi, yn ardal Ysbyty - Ysbyty Ystwyth, mewn tyddyn bach, fi a nhad a'n mam, ac odd yn whâr, mam Wil Rogers, nawr 'te, odd hi'n byw yn ffarm Llwyn Llwyd, yn ardal Ffair-rhos fan hyn. Ac in ni wedi bod nawr gyda hi, amser odd Wil, William Morgan, 'na'r adeg odd hi, amser geni Wil, Wil Moc, os gwedo ni, Wil Rogers. in i wedi bod am bum wsnoth nawr gyda'n whâr fan hyn, dim ond mynd adre at y nhad a'n mam am dro. Gyda'n whâr fan hyn in i yn aros, i chi'n gweld. in i'n hela lot o'n amser, gimint gyda'n whâr ag in i gatre. A nosweth yma in i wedi mynd am dro adre i edrych am 'y nhad a'n mam i ardal Ysbyty, ac in i wedi dod nil dros fancyn bach, i chi'n gwbod, a lawr i'r hewl sy'n dod o Ysbyty i Ffair-rhos. A pan cyrhaeddes i nil i dŷ'n whâr fan hyn, odd 'na hen foi wedi dod i edrych amdanyn nhw nawr o ardal Sbyty, o Ysguborie, a merch fach 'dag e odd e wedi'i magu. A gyda llaw, odd y ferch fach yn ferch i'm mrawd i, ond in nhw heb ddim plant wedi'i chymerid hi. A gyrhaeddes i nil i dŷ'n whâr nawr tua naw o'r gloch y nos. A mi ath yr hen foi 'ma a'r ferch fach adre tua deg. Ac in nhw'n mynd ar yr un ffordd, nawr, hewl Ysbyty, ag in i wedi dod arni, o'r Sbyty. A trannoth, clywed stori drannoth, bod Enoc Sguborie a Peg, y ferch Fach, wedi cwrdd â angladd, ar bwys Pen-lan Fach, hen adfeilion o hen dŷ ar ymyl yr hewl. in nhw wedi gweld angladd. Jiw! reit to, pawb yn gweud: 'Enoc wedi gweld angladd'.

Ês i adre nawr i aros mewn cwpwl o ddiwrnode at 'y nhad a mam wedi gorffen yn Llwyn Llwyd, adre am gwpwl o ddiwrnode at 'y nhad a mam, a wedes i fel hyn:

'Chi'n gwbod bod Enoc Sguborie wedi cwrdd â angladd ar hewl Sbyty wrth fynd adre o Llwyn Llwyd pwy nosweth?' A wedodd mam felna wrth 'y nhad:

'Glywsoch chi be ma hi'n weud, bod Enoc, bod e wedi gweld angladd?' wedodd hi felna.

'O, twt, twt', wedodd 'y nhad, 'wi'n credu dim mewn rhyw hen nonsens felna'.A wedodd mam:

'Pidiwch chi â bod rhy siwr, wir, mi all hynna fod yn wir.'

A odd hyn nawr nos Wener, a bore dy' Llun odd mam yn marw, ac odd yr angladd yna yn dod o'r Ysbyty rownd a trw Ffair-Rhos a lan i Ystrad-fflur. Hers a ceffyl odd pryd 'ny. Ac odd yr hen foi, Enoc Thomas 'ma, Sguborie'n gweud yn yr union fan odd e - yr angladd yn dod i gwrdd ag e mewn un llidiart ac odd hi'n gorffen mewn llidiart yn nes ymlân wedyn. Ac odd e'n gweud: 'Fues i yn angladd - dyna'r angladd welis i pwy nosweth odd angladd Mary Lloyd'. Ac odd e'n gweld y coffin a chwbwl. Ac angladd 'y mam odd e. Ac in ni newydd ddod ar yr hewl 'na, chwel, ond odd yr angladd yn dod o'n nhŷ i, o 'nghatre i, tu nil i fi ar hyd hewl Ysbyty, ac odd e [Enoc] yn mynd o Lwyn Llwyd, ac odd e'n cwrdd â'r angladd, angladd yn mam. Biti wthnos ar il hyn odd yn mam yn marw yn sydyn, ac odd yr angladd yn dod yr un ffordd ... Angladd Mari Lloyd odd hi.

[WT] Gwêd i ni shwt fuodd hi farw.

O, odd hi wedo codi ar fore dy' Llun a, ch'mbod, odd hi wedi mynd mâs, hi odd yn tendio'r da, nawr, odd hi wedi mynd mâs i roi bwyd - in ni wedi câl brecwast a te am ddeg, a mam yn iawn, dim yn bod arni, chwel - a mi ath hi mâs nawr, rhoi dŵr yn y fydde, câl corddi, odd gegin bach 'da ni, 'radeg hynny, kitchen 'da ni yn fanny. A mi ath hi mâs a peth i'r da, ês i mâs mewn sbel ar 'i hil hi. A mi cês hi, odd hi wedi marw yn y sied wair, yn sydyn fan 'ny chwel.

Recording

Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6452. Recordiwyd 5.v.1979.

Nodiadau

Bu Mary Lloyd, mam Mary Thomas, farw yn 1933. Cyfeiriodd Mary Thomas at ei nai, William Morgan Rogers, Caerdydd, 'Wil Moc' i'w gyfeillion, yn arbennig oherwydd y gwyddai fod yr holwr yn ei adnabod.

Teipiau

ML 4002 (C) Profiadau goruwchnaturiol.
ML 4040 (C) Rhagarwyddion marwolaeth.
ML 4031 (C) c Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion.

Motifs

ML 4040 (C) Rhagarwyddion marwolaeth.
ML 4031 (C) c Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion.