Cadwraeth
Mae'r adain gadwraeth o fewn yr Adran yn delio â chadw ac adfer y rhan fwyaf o'r deunyddiau o fewn y casgliad - sefydlogi arteffactau ar gyfer eu hastudio a/neu eu harddangos drwy ymyrryd i'w trin a thrwy reoli'r amgylchedd.
Mae'r arteffactau yn amrywio'n fawr, o bethau pren a gafodd eu codi o waelod llynnoedd neu foroedd i emwaith cain. Bu rhai o'r gwrthrychau yn yr amgueddfa ers diwedd y ganrif ddiwethaf a gall hynny olygu bod cymhlethdodau yn codi oherwydd y ffordd y cawsant eu trin a'u storio yn y gorffennol. Mae angen triniaeth fwy brys ar eitemau eraill sy'n dod i mewn o raglen gloddio bresennol yr Adran, neu sy'n cael eu darganfod gan bobl â pheiriannau datgelu metel. Yn aml mae'r eitemau hyn yn rhoi cyfle ar gyfer glanhau a dadansoddi ymchwiliol.
Yn y labordy mae dewis da o ficrosgopau optegol ac offer cadwraeth safonol, yn ogystal â pheiriant pelydr X diwydiannol, microsgop fideo, soxhlet a sychwr rhewi. Mae'r math o waith a wnawn, a'r lefel, yn dibynnu ar weithgareddau a gofynion presennol yr adran, e.e. astudio darganfyddiadau o waith cloddio diweddar, neu arteffactau sydd angen eu harddangos naill ai o fewn yr amgueddfa hon neu ar fenthyg. Mae gofalu am y casgliadau hefyd yn golygu cadw golwg ar wrthrychau sy'n cael eu harddangos a'r rhai yn y storfa, a rhoi cyngor yngln â chynllunio'r casynnau arddangos a phecynnu. Mae'r staff cadwraeth hefyd yn gwneud copïau o eitemau ar gyfer gwaith addysgol ac ar gyfer eu harddangos, a hefyd ar gyfer sefydliadau eraill.