Cynhanes Cynnar
Mae'r rhan hon o'r casgliadau yn cwmpasu bron yr holl amser y bu pobl yn byw yng Nghymru - sef bron i 250,000 o flynyddoedd i gyd. Dim ond y deunyddiau cryfaf sydd wedi goroesi: cerrig, esgyrn, crochenwaith ac ambell ddarn o bren.
Yn Ogof Pontnewydd y mae'r dystiolaeth gyntaf o bobl yn byw yng Nghymru, sef 250,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r Neanderthaliaid cynnar hyn wedi gadael enghreifftiau o'u hoffer carreg amrwd, yr anifeiliaid roeddynt yn eu hela a'u bwyta a hyd yn oed eu hesgyrn nhw eu hunain.
Wrth i fodau dynol modern esblygu, gwelwn fwy o amrywiaeth yn yr offer a ddefnyddir yng Nghymru a cheir y dystiolaeth gyntaf o gladdu defodol, yn Ogof Paviland, Gŵyr. Yno claddwyd dyn ifanc wedi'i orchuddio ag ocr coch, ynghyd â nwyddau claddu.
Roedd tirwedd garw yn wynebu'r bobl gynnar hyn, yn enwedig â'r wlad yng nghrafangau Oes yr Iâ. Tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl fe newidiodd hyn i gyd: cynhesodd yr hinsawdd, ciliodd y rhewlifau a daeth coedwigoedd yn eu lle.
Yn hytrach na hela heidiau o ceirw Llychlyn a mamothiaid, bellach roedd pobl yn hela ceirw, yn pysgota a chasglu planhigion i'w bwyta. Mae'r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr offer - addaswyd yr erfynnau ar gyfer yr anghenion newydd.
Parhaodd pobl i hela-gasglu fel hyn tan c.4,500 CC pan ddaeth y syniad o ffermio i Brydain o'r cyfandir. Gyda'r cnydau a'r anifeiliaid newydd daeth crochenwaith hefyd, a datblygodd llwybrau masnach ledled Ynysoedd Prydain yn cysylltu cymunedau dros bellter mawr. O'r pwys mwyaf i archaeolegwyr efallai, dyma'r cyfnod hefyd pryd y dechreuwyd adeiladu beddrodau, gan selio'r dystiolaeth am ffordd o fyw pobl ers talwm i bobl heddiw ei dehongli.