Darganfyddiadau a Thynged: project ymchwil Darluniau Botanegol

Staff: Heather Pardoe & Maureen Lazarus
Magnolia

Anfonwyd casglwyr proffesiynol i rannau pellennig o'r byd. Roedd darganfod planhigion newydd yn golygu archwilio gwledydd newydd - yn aml heb fapiau cywir, drwy diroedd heb heolydd, a chydag ychydig o aneddiadau.

Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ardderchog o ddarluniau botanegol. Yn codi o hyn, rydym yn ymchwilio ar gyfer cyhoeddiad poblogaidd yn canolbwyntio ar gasglwyr planhigion cynnar ac artistiaid botanegol yn y casgliad darluniau botanegol.

Bydd y testun yn disgrifio sut, yn ystod 'dyddiau darganfod' roedd botanegwyr yn teithio i leoliadau anghysbell a pheryglus yn chwilio am blahnigion prin, o bosibl yn bwysig yn economaidd. Yna cofnodwyd y planhigion gan artistiaid ar gyfer ymchwil gwyddonol ond hefyd, gyda'r sgil artistig a thechnegol gorau posibl, galluogwyd eraill i ryfeddu ar y rhywogaethau newydd o blanhigion megis rhododendron a Banksias.

Bydd y llyfr yn cynnwys darluniau botanegol ardderchog o'r casgliadau.