Nuremberg: cynhyrchu darluniau botanegol

Staff: Heather Pardoe & Maureen Lazarus
Tulipa Lutea Lituris Aureis

o Hortus Eystettensis (1613) a grëwyd gan Basilius Besler (1561-1629)

Datgelodd ymchwil ar ein casgliad o ddarluniau botanegol nifer o gysylltiadau gyda dinas Nuremberg. Er enghraifft, yn 2001 cafwyd ysgythriad gwreiddiol, wedi'i liwio â llaw, o'r Hortus Eystettensis (1613), fflorilegiwm gwych a grewyd gan apothecari Nuremberg, Basilius Besler (1561-1629) yn cofnodi holl blanhigion gardd Esgob Eichstatt, Conrad von Gemmingen.

Roedd Nuremberg hefyd yn gartref i Christoph Jacob Trew (1695-1769), meddyg, anatomegydd a botanegydd dylanwadol. Roedd Trew yn noddwr pwysig a gomisiynodd y prif artist Georg Dionysius Ehret i gynhyrchu darluniau ar gyfer Plantae Selectae (1750–73), un o'r iconograffiau botanegol mawr. Mae gan yr Amgueddfa 27 print rhydd o'r gwaith hwn. Bydd y project ymchwil yn archwilio datblygiad Nuremberg fel canolfan ardderchowgrwydd darluniau botanegol a chyhoeddi. Bydd y cysylltiadau gyda'n casgliadau yn cael eu disgrifio ac mae cynlluniau am ymweliad ymchwil gyda'r ddinas.