Bywyd Cartref a Gwisgoedd
- Mae'r casgliad yn cynnwys ystod eang o ddodrefn a chelfi ty, yn dyddio o'r 16eg ganrif hyd at heddiw.
- Mae'r Amgueddfa yn casglu gwisgoedd o'r cyfnodau hyn i gyd, gan gynnwys y ffasiynol a'r beunyddiol, dillad swyddogol a dillad gwaith. Hefyd yn y casgliadau mae pob math o fân eitemau personol.
- Ceir casgliadau eang o offer coginio a llaethydda, offer ty, llestri bwrdd, addurniadau a defnyddiau dodrefnu.
- Mae'r casgliadau o glociau a dodrefn gwledig yn arbenig o nodedig. Gellir gweld rhan helaeth ohonynt yn y tai a ailgodwyd ar y safle.
- Mae gennym gasgliad sylweddol o wisgoedd merched o'r 19eg a'r 20fed ganrif.