Gweithiau ar Bapur

Mae 28,000 o weithiau ar bapur yn y casgliad Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys dyfrluniau, darluniau, printiadau, llyfrau brasluniau ac albymau. Casgliad cynhwysfawr yw hwn sy'n ymestyn o brintiadau gan Rembrandt a Picasso i ddyfrluniau gan Cézanne a Turner a darluniau gan Burne-Jones a David Nash. Ceir daliadau arbennig o helaeth o weithiau gan Augustus a Gwen John (dros 2,000 o weithiau), Graham Sutherland, David Jones a Ray Howard-Jones. Rhydd y rhain gyfle unigryw i weld dulliau gweithio yr arlunwyr hyn. Hefyd y mae gennym gasgliad mawr o olygfeydd topograffaidd o Gymru.

Mae gweithiau ar bapur yn hynod sensitif i'w hamgylchedd - mae gormod o oleuni yn achosi i liwiau bylu ac i bapur freuo. Hefyd, mae'r gweithiau yma yn rhy niferus ac yn rhy fregus i gael eu dangos yn barhaol. Cedwir hwy yn yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau, lle rheolir yr hinsawdd. Cynhelir arddangosfeydd dros dro rheolaidd o weithiau ar bapur o'r casgliad: ymhlith yr arddangosfeydd diweddar bu Gwen John nas gwelwyd, Gweledigaethau Oes Fictoria, Taith Ddarluniadol Drwy Gymru a Chwaeth y Chwiorydd: Gweithiau ar bapur o gasgliad Davies.

Mae croeso i chi ddod i weld y gweithiau nad yn yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau. Gellir trefnu apwyntiadau ar gyfer Dydd Mawrth - Dydd Gwener rhwng 10.00 am a 4.00 pm. Fel rheol y mae angen wythnos o rybudd ymlaen llaw.

Ffôn: (029) 2057 3236
E-bost: artenquiries@amgueddfacymru.ac.uk

Cyfeiriad: Yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP