Ymchwiliau diwydiant gwlân Cymru
Oes gennych chi ddiddordeb yn Niwydiant Gwlân Cymru?
Ansicr ble i ddechrau? Gallai Amgueddfa Wlân Cymru eich helpu chi
Dyma rai o’n ymholiadau mwyaf cyffredin -
- Mae gennych siôl fagu ac rydych chi am wybod sut a ble y cafodd ei gwneud.
- Rydych chi’n olrhain eich teulu ac am wybod rhagor am felin wlân a fu’n eiddo i’r teulu ’slawer dydd.
- Rydych chi am ddysgu rhagor am y felin lle rydych chi’n byw.
Cartref Amgueddfa Wlân Cymru yw hen Ffatri Cambrian. Mae ein casgliad yn cynnwys pedwar adeilad rhestredig Gradd II yr hen felin, peiriannau tecstilau hanesyddol, casgliad tecstilau, archif papur a ffotograffau a llyfrgell fechan. Cewch ymweld â’r amgueddfa i weld y brethyn yn cael ei wehyddu ar yr hen beiriannau hanesyddol a sgwrsio â’n crefftwyr. Cewch weld y broses o gynhyrchu brethyn yn y felin fasnachol sy’n dal i weithio ar y safle, Melin Teifi ac yn y felin wlân rhestredig o’r ddeunawfed ganrif, Esgair Moel, a ailgodwyd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae detholiad o’r brethyn a wnaed ym melinau Cymru i’w weld yn yr Oriel Tecstilau. Mae ein casgliad tecstilau’n offeryn defnyddiol iawn i adnabod patrymau blancedi, eu dyddiadau a’r melinau lle cawsant eu cynhyrchu. Nod y cynnig i ddatblygu Cronfa Ddata Ddylunio Genedlaethol yw adeiladu ar hyn, fel y gallwn ni ryddhau ein casgliadau ar-lein.
Y brif ffynhonnell gwybodaeth am ddiwydiant gwlân Cymru yw’r llyfr The Welsh Woollen Industry gan J. Geraint Jenkins (Caerdydd, 1969).
Mae dau adroddiad pwysig ar gael hefyd Report on a survey of the Welsh Textile Industry gan William P. Crankshaw (Caerdydd, 1927) a Rural Industries Bureau Survey of Welsh Mills (heb ei gyhoeddi, 1947).
Nid ar chwarae bach mae dechrau ymchwilio i hanes teuluol ac adeiladau hen felinau! Nid oes cofnodion cynhwysfawr gennym am yr holl felinau gwlân yng Nghymru a’r teuluoedd oedd yn berchen arnynt. Mae gennym ffeiliau ar felinau Dyffryn Teifi isaf ac mae rhywfaint o wybodaeth am rhai o’r melinau mwy yn ein harchif. Rydyn ni’n dal i ymchwilio a chasglu gwybodaeth yn y maes yma.
Amgueddfa Wlân Cymru yw prif amgueddfa Cymru o ran hanes y diwydiant gwlân, ond mae yna gasgliadau sy’n ymdrin â’r diwydiant gwlân yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru hefyd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch y Curadur, Ann Whittall, ar (029) 2057 3084 neu e-bostiwch ann.whittall@amgueddfacymru.
Mae llawer o storfeydd ac adnoddau eraill ar gael i ymchwilio i ddiwydiant gwlân Cymru:
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB
(029) 2057 3500
www.amgueddfacymru.ac.uk
Casgliad o ffotograffau o felinau yn yr archif ffotograffau; llyfrau cyfrifon rhai o’r melinau yn yr archif; cyngor ar ofalu am decstilau; cyngor ar ymchwilio i adeiladau hanesyddol; cofnodion sain o straeon cyn-berchnogion a gweithwyr y melinau; Esgair Moel, melin wlân o’r ddeunawfed ganrif wedi ei hailgodi ac sy’n dal i weithio; llyfrgell.
Cymdeithas Melinau Cymru
c/o Mrs Hilary Malawas
Y Felin
Tynygraig
Ystrad Meurig
SY25 6AE
www.rcahmw.org.uk/wms/
Nod y Gymdeithas yw astudio, cofnodi, dehongli a hysbysebu melinau gwynt a dŵr Cymru; hybu diddordeb cyffredinol; cynghori ar faterion cadwraeth a defnydd, a hyrwyddo melinwyr sy’n dal i weithio.
Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd
5-7 Commercial Street
Y Drenewydd
Powys
SY16 2BL
www.powysmuseums.powys.gov.uk
Lleolir yr Amgueddfa Decstilau mewn siop wehyddu o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o gyfnod pan oedd y Drenewydd yn ganolfan bwysig i wehyddu ar ŵydd llaw. Mae’r amgueddfa’n adrodd stori’r diwydiant gwlân yn y Drenewydd ac yng Nghymru.
Amgueddfa Ceredigion
Y COLISEWM
Ffordd y Môr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AQ
(01970) 633084
www.ceredigion.gov.uk
Mae tecstilau brethyn Cymreig yn y casgliad.
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Abergwili
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2JG
(01267) 228696
www.sirgar.gov.uk
Mae darnau brethyn Cymreig yn y casgliad.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
chc.cymru@cbhc.gov.uk
www.cbhc.gov.uk
Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau sy’n rhoi canllawiau ar olrhain cart achau ac mae niferfawr o wefannau defnyddiol ar y pwnc hefyd. Man cychwyn da a chael ambell i awgrym yw
Archifdy Cenedlaethol Prydain
Kew
Richmond
Surrey
TW9 4DU
(0208) 8763444
www.nationalarchives.gov.uk
Y Ganolfan Cofnodion Teuluol
1 Myddelton Street
Llundain
EC1R 1UW
(0208) 392 5300
www.familyrecords.gov.uk
Mae llawer o adnoddau ar-lein defnyddiol ar gael i’ch helpu chi i ymchwilio. Mae gormod o lawer i’w rhestru, ond dyma ambell un:
- Rhwydwaith Archifau Cymru: www.rhwydwaitharchifaucymru.info
Mae’r wefan hon yn cynnwys disgrifiadau o’r casgliadau sydd mewn archifdai yng Nghymru, ac yn cynnig cysylltiadau ar gyfer gwybodaeth bellach a manylion archifdai eraill. - Cymru ar y We: www.cymruarywe.org
Catalog ar-lein o gasgliadau ymchwil Cymru. - Casglu’r Tlysau: www.gtj.org.uk
Mae dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, ffotograffau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru ar y wefan hon. Mae’n cynnwys nifer fawr o ddelweddau o felinau gwlân a thecstilau hanesyddol Cymru.
Os oes diddordeb gennych chi ddysgu rhagor am decstilau a pheiriannau tecstilau.
Yr Amgueddfa Wyddoniaeth Exhibition Road South Kensington Llundain SW7 2DD (0870) 8704868 www.sciencemuseum.org.uk Mae gan yr Amgueddfa Wyddoniaeth gasgliad helaeth sy’n cwmpasu holl hanes gwyddorau, technoleg a meddyginiaeth y gorllewin - mae’r casgliad yn cynnwys peiriannau tecstilau. Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant Manceinion Mae’r Oriel Tecstilau’n lle difyr os oes hoffech chi ddysgu rhagor am beiriannau tecstilau a’r diwydiant tecstilau ym Mhrydain. Amgueddfa Victoria ac Albert Mae gwefan Amgueddfa Victoria ac Albert yn ei disgrifio fel amgueddfa gelf a chrefft orau’r byd. Mae gan yr amgueddfa gasgliad tecstilau sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg hyd heddiw, gan gynnwys dyluniadau a ffasiynau Prydeinig cyfoes. Archifdai Lleol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Archifdy Ynys Môn Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin Archifdy Ceredigion Gwasanaeth Archif Archifdy Sir y Fflint Archifdy Morgannwg Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office] Archifdy Gwynedd Archifdy Gwynedd Swyddfa Gofnodion Sir Benfro Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mae’r melinau gwlân sy’n dal i gynhyrchu yng Nghymru’n cynnwys:Melin Wlân Bryncir Melin Wlân Cambrian Curlew Weavers Melin Wlân Elfed Melin Dolwerdd Esgair Moel Rock Mill Y Felin Wlân Melin Teifi Melin Wlân Trefriw Melin Tregwynt Gwehyddion Sioni Rhys Riitta Sinkkonen Davies Handweaving Snail Trail Handweavers Melin Tre-fin |