Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw agwedd o hanes y diwydiant llechi yng Nghymru, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau pori am wybodaeth, yna gall Amgueddfa Lechi Cymru fod o gymorth. Dyma restr gryno o’r ffynonellau sydd ar gael:
Gwasanaeth Archifau Gwynedd (cangen Caernarfon), Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH 01286 679095 archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk Yng nghangen Caernarfon lleolir hen ddogfennaeth Chwarel Dinorwig; Chwarel Dorothea; Chwarel Penrhyn; Chwarel Penyrorsedd; Chwarel Castell, Plasgwynant, Beddgelert; dogfennaeth parthed Streic Fawr y Penrhyn; casgliad o ddogfennau o eiddo W.J.Parry; casgliad Amgueddfa Chwareli Llechi Gogledd Cymru; a casgliad o ddogfennau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.
Adran Archifau a Llawysgrifau, Y Prif Lyfrgell, Prifysgol Cymru Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd. LL57 2DG 01248 382966
O fewn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor lleolir Adran Archifau a Llawysgrifau. Yma ceir dau gasgliad o ddogfennau archifol sydd yn berthnasol i’r diwydiant llechi, sef casgliad Castell Penrhyn, a chasgliad Gohebiaeth Castell Penrhyn – Streic Chwarel.
Gwasanaeth Archifau Gwynedd (cangen Meirionnydd – wedi ei leoli’n Nolgellau) Ffordd y Bala, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YF 01341 424 682 archifau.dolgellau@gwynedd.gov.uk
Yng nghangen Dolgellau lleolir hen ddogfennaeth Chwarel Llechwedd; Chwarel Oakeley; a Chwarel Foty a Bowydd.
Swyddfa Ddogfennau Sir Benfro The Castle, Hwlffordd, Sir Benfro. SA61 2EF 01437 763707
Lleolir deunydd archifol sydd yn berthnasol i’r diwydiant llechi yn Ne Orllewin Cymru (yn benodol Sir Benfro) yn Swyddfa Ddogfennau Sir Benfro.
Archifdy Sir Ddinbych, 46 Heol Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1HP 01824 708250 archifau@sirddinbych.gov.uk
Am wybodaeth am chwareli llechi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, dylid cysylltu gyda Archifdy Sir Ddinbych.
Un o’r ffynonellau mwyaf gwerthfawr i unrhyw un sydd ar drywydd gwybodaeth am unrhyw agwedd o hanes y diwydiant llechi yw llyfrau. Yn fras, gellir categoreiddio’r llyfrau sydd yn ymwneud a’r diwydiant llechi fel a ganlyn:
Nofelau ffuglen sydd wedi eu gosod yn, neu wedi eu seilio ar, gymunedau chwarelyddol e.e. Hughes, T.R. , Chwalfa.
Ffynhonnell werthfawr o wybodaeth trylwyr am agweddau penodol o hanes y diwydiant llechi yw traethodau ymchwil a ysgrifennwyd gan awduron ar gyfer graddau MA, MPhil a PhD. Lleolir y traethodau ym mha bynnag Brifysgol yr oedd yr awdur yn fyfyriwr ar y pryd. Dyma ddetholiad:
Mae amrywiaeth eang o amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr ar hyd a lled Cymru sydd yn gysylltiedig a’r diwydiant llechi. Drwy ymweld a rhain gallwch gael profiad byw a dealltwriaeth trylwyr o hanes diwydiannol a chymdeithasol y diwydiant llechi.
Rheilffordd Corris Station Yard, Corris, Machynlleth. SY20 9SH http://www.corris.co.uk/
Inigo Jones a Co Ltd Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd. LL54 7UE 01286 830242 info@inigojones.co.uk http://inigojones.co.uk
Llechwedd Slate Caverns Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3NB 01766 830306 info@llechwedd-slate-caverns.co.uk http://www.llechwedd-slate-caverns.co.uk
Llanfair Slate Caverns Llanfair, Harlech. 01766 780247 caverns@llanfairslatecaverns.co.uk http://llanfairslatecaverns.co.uk/
Amgueddfa’r Môr, Caernarfon Victoria Dock, Caernarfon, Gwynedd. 01248 752083
Amgueddfa’r Môr, Porthmadog Oakley Wharf No 1, The Harbour, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU 01766 513736
Rheilffordd Llyn Padarn Gilfach Ddu, Llanberis, Gwynedd. LL55 4TY 01286 870549 info@lake-railway.co.uk
Rheilffordd Ffestiniog Harbour Station, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9NF 01766 516024 enquiries@festrail.co.uk
>Tal y Llyn Railway Company Wharf Station, Tywyn, Gwynedd. LL36 9EY 01654 710472 http://www.talyllyn.co.uk
Rheilffordd Ucheldir Cymru
http://www.bangor.ac.uk/ml/whr
gwefan yr amgueddfa reilffordd
Cae’r Gors, Rhosgadfan
Lleolir Cae’r Gors, cartref y nofelydd Dr Kate Roberts, yn Rhosgadfan. Llwyddodd Cyfeillion Cae’r Gors i ennill grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y tyddyn a chreu canolfan ddehongli fychan. Dechreuodd y gwaith o adfer Cae’r Gors ym mis Ionawr 2006.
Cartref T.Rowland Hughes
Lleolir cartref T.Rowland Hughes ym mhentref Llanberis. Gellir trefnu i ymweld a’r cartref drwy gysylltu gyda Clerc Cyngor Cymuned Llanberis.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200 chc.cymru@cbhc.gov.uk www.cbhc.gov.uk