Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n dri phrif gategori:
Mae gwybodaeth wedi cael ei chyhoeddi am y prif weithfeydd a chwmnïau haearn, dur a metel, ond does yna ddim ffynhonnell benodol i astudio hanes y gweithfeydd a’r cwmnïau haearn, dur a mwyngloddio llai, na’r mwyafrif o’r gweithfeydd a’r cwmnïau tunplat a mwyndoddi anfferrus. Mae’r wybodaeth am y gweithfeydd llai hyn ar wasgar ar draws hanes y diwydiant yn gyffredinol, hanesion lleol a ffynonellau archif. Gallwn roi cyngor ar y ffynonellau sydd ar gael a ble gallwch ddod o hyd iddynt.
Cyhoeddwyd nifer o lyfrau sy’n disgrifio gweithfeydd a phrosesau metel yn ystod y 150 mlynedd diwethaf. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn ac eraill yn hawdd eu deall. Gallwn roi cyngor am y rhai a fydd yn addas at eich anghenion chi.
Mae ein casgliad ffotograffau’n cynnwys delweddau o nifer o weithiau a phrosesau metel Cymru, yn ogystal â detholiad da o’r mwyngloddiau metel. Wrth gwrs, mae mwy o ddelweddau o’r gweithfeydd a’r mwyngloddiau mawr na’r rhai bach, ac mae’r casgliad yn cynnwys llawer mwy o ddelweddau o’r diwydiannau haearn, dur a thunplat na’r diwydiannau mwyndoddi anfferrus.
Mae dewis da o lyfrau ar hanes metelau Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn ein llyfrgell, yn enwedig ein treftadaeth metel yng Nghymru.
Ond nid peth mor syml yw ymchwilio i hanes cyndeidiau yn y diwydiannau metel! Nid oes unrhyw gofnodion cyflogaeth gan yr amgueddfa – y storfeydd a’r archifdai isod sy’n cadw’r ychydig gofnodion sydd ar ôl o’r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Y cwmnïau eu hunain sy’n cadw cofnodion cyflogaeth o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond nid oes hawl gan haneswyr teuluol eu defnyddio oherwydd eu natur gyfrinachol.
Os hoffech chi drafod unrhyw elfen o hyn, ffoniwch Jennifer Protheroe-Jones ar (029) 2057 3630 neu e-bostiwch Jennifer.protheroejones@amgueddfacymru.ac.uk
1) Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill
Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill yw’r man cychwyn gorau am mai dyma lle cedwir y rhan fwyaf o’r dogfennau sy’n ymwneud â’r gweithfeydd, y cwmnïau a’r manylion cyflogaeth. Gellir olrhain hanes gweithfeydd, a’r mwyngloddiau’n arbennig, drwy edrych ar gofnodion yr ystadau lle cawsant eu hadeiladu. Yr archifdai sirol sy’n cadw’r rhain gan amlaf. Maent hefyd yn cadw copïau o ganlyniadau cyfrifiadau’r blynyddoedd rhwng 1841 a 1901 – sy’n amhrisiadwy wrth olrhain cyndeidiau oedd yn gweithio yn y diwydiant – yn ogystal â ffynonellau pwysig eraill ar gyfer haneswyr teuluol:
2) Dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig
Cedwir dogfennau cwmnïau cyfyngedig yn Nhŷ’r Cwmnïau; cedwir dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig sydd wedi darfod yn Archifdy Cenedlaethol Prydain.
3) Gwybodaeth am archeoleg ddiwydiannol gweithfeydd a safleoedd mwyngloddio:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ymddiriedolaethau archeoleg sirol sy’n cadw’r wybodaeth yma. Mae Cadw: Henebion Cymru’n gyfrifol am restru henebion a safleoedd hynafol: