Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymwelwch â'n Adnoddau Hanes Menywod, neu barhau i ddarllen am hanes menywod yn ein casgliadau diwydiannol.
Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n ddau brif gategori:-
Mae gan yr amgueddfa luniau o ferched yn gweithio yn y diwydiant gwlân a’r gweithfeydd tunplat yn y 1870au a’r 1950au. Mae yna ffotograffau o ferched yn gweithio ym meysydd gweithgynhyrchu a gweinyddu hefyd.
Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lbeintiadau o ferched yn gweithio ym mwyngloddiau copr Ynys Môn a llun o ‘ferch cols’ wrth ei gwaith yng ngweithfeydd haearn Dowlais, Merthyr Tudful ym 1840. Cewch weld y lluniau ar wefan ‘Casglu’r Tlysau’ trwy ddilyn y cysylltiadau isod.
Peth cymharol newydd yw ymchwilio i hanes merched. Ni ddechreuodd gwaith yn y maes o ddifrif tan y 1960au-1970au. Er bod ffynonellau hanesyddol ar gael wrth chwilio o dan benawdau cyffredinol yn aml, mae angen tipyn o chwilota’n aml iawn, ond mae’n gallu bod yn waith gwerth chweil!
Nid oes gan yr amgueddfa unrhyw gofnodion cyfrifiad na chofnodion cyflogaeth. Swyddfeydd cofnodion ac archifdai lleol sy’n cadw’r rhain, mae rhestr ohonynt isod. Mae gan ein llyfrgell gopïau o’r cylchgrawn Llafur, sy’n cynnwys rhai erthyglau am hanes merched, a rhai llyfrau am hanes merched:
Os hoffech chi fwrw golwg ar unrhyw un o’r cyhoeddiadau uchod, ffoniwch (029) 2057 3500
Dyma ambell i wefan ddefnyddiol:
Dyma rhai o’r canolfannau pwysig i bobl sy’n ymchwilio i hanes merched. Mae’n werth galw draw i swyddfeydd cofnodion ac archifdai lleol am y gallwch ffeindio deunydd am hanes merched yno’n aml. Ni fydd y rhain mewn adrannau pwrpasol fel rheol, ond fe ffeindiwch chi wybodaeth fyw cyffredinol. Yn aml bydd angen twrio!
The Women's Library Prifysgol Metropolitan Llundain Old Castle Street Llundain E1 7NT 020 7320 2222www.londonmet.ac.uk/thewomenslibrary/
Mae’r llyfrgell yn cadw casgliadau ar bob math o bynciau, fel hawliau merched, y bleidlais i ferched, rhywioldeb, iechyd, addysg, gwath, hawliau magu plant, y teulu a’r cartref. Mae’r pwyslais yn bennaf ar ferched ym Mhrydain, ond mae rhywfaint o ddeunydd rhyngwladol hefyd. Cewch chwilio gwefan y llyfrgell yn ôl pwnc ac mae’n caniatáu ar gyfer chwilio casgliadau’r llyfrgell hefyd.
Swyddfa Gofnodion Morgannwg Clos Parc Morgannwg Leckwith Caerdydd CF11 8AW 029 20872200www.glamro.gov.uk
Mae’r swyddfa’n cadw deunydd am fudiad rhyddid y merched yng Nghaerdydd a phapurau a ffotograffau o’r mudiad heddwch Merched dros Heddwch ar y Ddaear. Mae gan y swyddfa gofnodion cwmni Siop Adrannol Howells, Caerdydd a Siop Adrannol Ben Evans o 1900-1960au. Roedd y cwmnïau’n cyflogi llawer o ferched ar y pryd.
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Neuadd y Sir, Ffordd Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN. Ffôn 01792 636589
Mae’r gwasanaeth yn cadw deunydd am y mudiad dros y bleidlais i ferched yng Nghymru a mudiad y ffeministiaid yn y de ar ran Archif Merched Cymru.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU Ffôn 01970 632800www.llgc.org.uk/
Mae’r llyfrgell yn cadw casgliad Menna Gallie ar ran Archif Merched Cymru. Mae’r archif yn cynnwys gwybodaeth am y nofelydd a aned yng Ystradgynlais ym 1920 ac a ysgrifennodd ddwy nofel â de Cymru ddiwydiannol yn gefndir iddynt.
Amgueddfa Abertawe Ffordd Victoria Yr Ardal Forwrol Abertawe SA1 1SN 01792 653763
Mae’r amgueddfa’n cadw casgliad bychan o arteffactau a ffotograffau mewn perthynas â’r mudiad dros y bleidlais i ferched yn Abertawe.
Swyddfa Gofnodion Sirol Ynys Môn Neuadd y Sir Llangefni, Ynys MônLL77 7TW 01248 752080www.ynysmôn.gov.uk
Gwasanaeth Archif Sir Gaerfyrddin Parc Myrddin Waun Dew CaerfyrddinSA31 3DS 01267 228232www.caerfyrddin.gov.uk
Archifdy Ceredigion Neuadd y Sir, Glan y Môr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2HE 01970 633697www.ceredigion-archives.gov.uk
Archifdy Conwy Lloyd St. Llandudno Conwy LL30 2YG 01492 860882www.conwy.gov.uk/archives
Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint Yr Hen Reithordy Penarlâg Glannau Dyfrdwy Clwyd LL15 1HP 01224 532364www.flintshire.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Morgannwg King Edward VII Avenue Parc Cathays CaerdyddCF1 3NE 029 2087 0282www.glamro.gov.uk
Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office] Steelworks Road EBBW VALE Blaenau Gwent NP23 6DN 01495 353363gwentarchives.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Gwynedd Swyddfeydd y Sir Caernarfon Gwynedd LL55 1SA 01286 679095www.gwynedd.gov.uk/archives
Gwasanaeth Archifau Gwynedd Cae Penarlâg, Dolgellau Gwynedd LL40 2YF0 01341 424443www.gwynedd.gov.uk/archives
Swyddfa Gofnodion Sir Benfro Y Castell, Hwlffordd, Sir Benfro, SA 01437 763707www.pembrokshire.gov.uk
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200www.cbhc.gov.uk