Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae mwyafrif helaeth yr ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n ddau brif gategori:
Y brif ffynhonnell gwybodaeth ar y diwydiant llongau masnach yw Lloyd’s Register of Shipping. Mae gan yr amgueddfa gyfrolau sy’n dyddio nôl mor bell â 1836, ac ambell i rifyn cynharach hefyd. O ran llongau’r Llynges Frenhinol, mae gennym Ships of the Royal Navy o waith J. J. Colledge’s ac ambell i gopi o Jane’s Fighting Ships, sy’n dyddio’n bennaf o’r ddau ryfel byd.
Yn ein harchif ffotograffau mae lluniau o ryw 6,000 o longau (masnach yn bennaf), ac mae gwybodaeth arbenigol ar gael am rai o gwmnïau llongau Cymru a Phrydain.
Yn ein llyfrgell mae dewis da o lyfrau ar hanes morwrol Prydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gyda phwyslais arbennig ar dreftadaeth forwrol Cymru.
Ond mae ymchwilio i hanes cyndeidiau oedd yn gweithio ar y môr yn fwy cymhleth o lawer! Nid oes unrhyw gofnodion gan yr amgueddfa fel rhestrau o griwiau neu deithwyr y llynges fasnach neu ryfel – yr archifdai isod sy’n cadw’r rheiny. Mae dwy gyfrol bwysig ar y pwnc, ac mae’r ddau ar gael yn llyfrgell yr amgueddfa:
I drefnu cyfle i weld y cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â Dr David Jenkins ar (029) 2057 3629, david.jenkins@amgueddfacymru.ac.uk
Mae tair gwefan ddefnyddiol arall ar gael:
Y Ceidwad Casgliad Morwrol Lloyd London Metropolitan Archives, 40 Northampton Road, London, EC1R 0HB 020 7332 3820 asklma@cityoflondon.gov.uk
Casgliad o gofnodion Corfforaeth Lloyd, yn cynnwys gwybodaeth am: farwolaethau morwyr a symudiadau llongau ledled y byd nôl i tua; 1740 (mae’r ffynonellau yn cynnwys ‘Lloyd’s List’, ‘Lloyd’s Shipping Index’, cofnodion am golledion rhyfel, Rhestrau Llengoedd Masnach Prydain); Cofrestrau Capteiniaid (cofnodion gwasanaeth capteiniaid a mêts o Brydain oedd yn teithio dramor) rhwng 1868 a 1947.
Swyddfa Gofnodion Cyffredinol Llongau a Morwyr Anchor Court Ocean Way Caerdydd CF24 5JW 029 2044 8800 www.mcga.gov.uk
Mae’r swyddfa’n cadw’r rhan fwyaf o’r cofnodion am forwyr Prydeinig cyfredol; mae cofnodion cynharach yn y broses o gael eu trosglwyddo i’r Archifdy Cenedlaethol – gweler isod.
Yr Archifdy Cenedlaethol Ruskin Avenue Kew Richmond Surrey TW9 9WU 020 8876 3444 www.nationalarchives.gov.uk
Storfa papurau llywodraeth a phapurau swyddogol Prydain. Ymhlith y casgliadau mae cofnodion No.3; Papurau’r Bwrdd Masnach a’r Weinyddiaeth Amddiffyn; cofnodion cwmnïau sydd wedi darfod; ffurflenni cyfrifiad (Cymru a Lloegr) o 1841 ymlaen; gwybodaeth am gludo troseddwyr ac ar bobl a allfudodd o’r DU i drefedigaethau Prydeinig.
Amgueddfa Forwrol Genedlaethol Prydain Park Row Greenwich Llundain SE10 9NF 020 8859 4422 www.nmm.ac.uk
Storfa genedlaethol Prydain ar gyfer llyfrau, modelau, cynlluniau, ffotograffau, peintiadau ac ati o’r cyfnod cynharaf y diwydiannau morwrol. Mae’r casgliadau’n cynnwys Lloyd’s Registers, atlasau, cofnodion cwmnïau llongau a chyfnodolion hanes y llynges fasnach a rhyfel.
Cyfadran Llongddrylliadau Adran Hydrograffeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn Admiralty Road, Taunton Gwlad yr Haf TA1 2DN 01823 337900 www.ukho.gov.uk
Gwybodaeth am longddrylliadau ym moroedd arfordirol y DU a thramor, ers 1913 yn bennaf.
Tŷ’r Cwmnïau Ffordd y Goron Y Maendy Caerdydd CF14 3UZ 0870 3333636 www.companieshouse.gov.uk Cofnodion cofrestru cwmnïau ers canol y 19eg ganrif.
Amgueddfa Forwrol Glannau Mersi Doc Albert Lerpwl L3 4AD 0151 207 0001 www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime
Hanes morwrol Lerpwl, yn enwedig allfudo. Gyda datblygiad teithiau rheolaidd llongau ager rheolaidd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, ffeindiodd llawer o allfudwyr y DU a rhan helaeth o gyfandir Ewrop eu ffordd i Lerpwl i deithio ar longau i UDA a Chanada.
Archifdy Cenedlaethol yr Alban General Register House Princess Street Caeredin 0131 535 1314 www.nas.gov.uk
Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon 66 Balmoral Ave. Belffast B99 6NY 028 9025 5905 www.proni.gov.uk
Cymdeithas yr Achyddion 14 Charterhouse Buildings Goswell Road Llundain EC1M 7BA 020 7521 8799www.sog.org.uk
Mae’r llyfrgell ar agor i bawb. Mae’n cynnwys casgliadau o gofrestrau plwyfi a mynegeion o enwau teulu, priodasau ac ewyllysiau.
Yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd Lambeth Road Llundain SE1 6AZ 020 7416 5320 www.iwm.org.uk
Hanes morwrol y ddau ryfel byd a rhyfeloedd ers hynny.
Amgueddfa’r Llynges Frenhinol Dociau Ei Mawrhydi Portsmouth PO1 3LR 023 9272 7562 www.royalnavalmuseum.org.uk
Hanes y Llynges Frenhinol.
Archidfy Hanes Morwrol Memorial University Newfoundland St Johns Newfoundland Canada A1C 557 001-709-737-8428 (from UK) www.mun.ca/mha
Rhestrau o griwiau llongau masnach Prydain 1863-1938. (Mae mynegai ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Archifdy Ynys Môn Ystâd Diwydiannol Bryn Cefni Llangefni, Ynys Môn LL77 7JA 01248 751930 archives@ynysmon.gov.uk www.ynysmon.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin Parc Myrddin Waun Dew Caerfyrddin SA31 3DS 01267 228232 www.sirgar.gov.uk
Archifdy Ceredigion Hen Neuadd y Dre Sgwâr y Frenhines Aberystwyth Ceredigion SA23 2EB 01970 633697 www.ceredigion-archifau.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Conwy Ffordd Lloyd Llandudno Conwy LL30 2YG 01492 860882 www.conwy.gov.uk/archifau
Archifdy Sir y Fflint Yr Hen Reithordy Penarlâg Sir y Fflint LL15 1HP 01224 532364 www.siryfflint.gov.uk
Archifdy Sir Benfro Y Castell, Hwlffordd, Sir Benfro, SA 01437 763707 record.office@pembrokeshire.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Gwynedd Cae Penarlâg, Dolgellau Gwynedd LL40 2YF0 01341 424443 www.gwynedd.gov.uk/archifau
Archifdy Morgannwg Clos Parc Morgannwg Leckwith Caerdydd CF11 8AW (029) 2087 2200 GlamRO@cardiff.gov.uk www.glamro.gov.uk
Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office] Steelworks Road EBBW VALE Blaenau Gwent NP23 6DN 01495 353363 gwentarchives.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Gwynedd Swyddfeydd y Sir Caernarfon Gwynedd LL55 1SA 01286 679095 www.gwynedd.gov.uk/archifau
Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg Neuadd y Sir, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN 01792 636589 www.abertawe.gov.uk/archifau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Penglais Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU 01970 632800 www.llgc.org.uk
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200 chc.cymru@cbhc.gov.uk www.cbhc.gov.uk
Mae’r rhan fwyaf o’r archifdai hyn yn cadw gwahanol fathau o gofnodion morwrol fel rhestrau criw, cofrestrau statudol y diwydiant llongau a dogfennau eraill fel llyfrau cownt a chofnodion teuluol.