Ymchwiliau hanes morwrol Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes morwrol?

Mae mwyafrif helaeth yr ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n ddau brif gategori:

  1. Ceisiadau am wybodaeth am longau a’r cwmnïau oedd yn berchen arnynt.
  2. Ceisiadau am wybodaeth am gyndeidiau oedd yn gweithio ar y môr.

Y brif ffynhonnell gwybodaeth ar y diwydiant llongau masnach yw Lloyd’s Register of Shipping. Mae gan yr amgueddfa gyfrolau sy’n dyddio nôl mor bell â 1836, ac ambell i rifyn cynharach hefyd.
O ran llongau’r Llynges Frenhinol, mae gennym Ships of the Royal Navy o waith J. J. Colledge’s ac ambell i gopi o Jane’s Fighting Ships, sy’n dyddio’n bennaf o’r ddau ryfel byd.

Yn ein harchif ffotograffau mae lluniau o ryw 6,000 o longau (masnach yn bennaf), ac mae gwybodaeth arbenigol ar gael am rai o gwmnïau llongau Cymru a Phrydain.

Yn ein llyfrgell mae dewis da o lyfrau ar hanes morwrol Prydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gyda phwyslais arbennig ar dreftadaeth forwrol Cymru.

Ond mae ymchwilio i hanes cyndeidiau oedd yn gweithio ar y môr yn fwy cymhleth o lawer! Nid oes unrhyw gofnodion gan yr amgueddfa fel rhestrau o griwiau neu deithwyr y llynges fasnach neu ryfel – yr archifdai isod sy’n cadw’r rheiny. Mae dwy gyfrol bwysig ar y pwnc, ac mae’r ddau ar gael yn llyfrgell yr amgueddfa:  

  • Records of Merchant Shipping and Seamen gan Kelvin Smith, Christopher Watts a Michael Watts, (Y Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus, bellach yr Archifdy Cenedlaethol, 1998).
  • Tracing your Naval Ancestors by Bruno Pappalardo, (Y Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus, bellach yr Archifdy Cenedlaethol, 2002).

I drefnu cyfle i weld y cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â Dr David Jenkins ar (029) 2057 3629, david.jenkins@amgueddfacymru.ac.uk

Mae tair gwefan ddefnyddiol arall ar gael:

Dyma rai o’r archifdai pwysicaf i ymchwilio i’r diwydiannau morwrol:

Y Ceidwad
Casgliad Morwrol Lloyd
London Metropolitan Archives,
40 Northampton Road,
London,
EC1R 0HB
020 7332 3820
asklma@cityoflondon.gov.uk

Casgliad o gofnodion Corfforaeth Lloyd, yn cynnwys gwybodaeth am: farwolaethau morwyr a symudiadau llongau ledled y byd nôl i tua; 1740 (mae’r ffynonellau yn cynnwys ‘Lloyd’s List’, ‘Lloyd’s Shipping Index’, cofnodion am golledion rhyfel, Rhestrau Llengoedd Masnach Prydain); Cofrestrau Capteiniaid (cofnodion gwasanaeth capteiniaid a mêts o Brydain oedd yn teithio dramor) rhwng 1868 a 1947.

Swyddfa Gofnodion Cyffredinol Llongau a Morwyr
Anchor Court
Ocean Way
Caerdydd CF24 5JW
029 2044 8800
www.mcga.gov.uk

Mae’r swyddfa’n cadw’r rhan fwyaf o’r cofnodion am forwyr Prydeinig cyfredol; mae cofnodion cynharach yn y broses o gael eu trosglwyddo i’r Archifdy Cenedlaethol – gweler isod.

Yr Archifdy Cenedlaethol
Ruskin Avenue
Kew
Richmond
Surrey TW9 9WU
020 8876 3444
www.nationalarchives.gov.uk

Storfa papurau llywodraeth a phapurau swyddogol Prydain. Ymhlith y casgliadau mae cofnodion No.3; Papurau’r Bwrdd Masnach a’r Weinyddiaeth Amddiffyn; cofnodion cwmnïau sydd wedi darfod; ffurflenni cyfrifiad (Cymru a Lloegr) o 1841 ymlaen; gwybodaeth am gludo troseddwyr ac ar bobl a allfudodd o’r DU i drefedigaethau  Prydeinig.

Amgueddfa Forwrol Genedlaethol Prydain
Park Row
Greenwich
Llundain
SE10 9NF
020 8859 4422
www.nmm.ac.uk

Storfa genedlaethol Prydain ar gyfer llyfrau, modelau, cynlluniau, ffotograffau, peintiadau ac ati o’r cyfnod cynharaf y diwydiannau morwrol. Mae’r casgliadau’n cynnwys Lloyd’s Registers, atlasau, cofnodion cwmnïau llongau a chyfnodolion hanes y llynges fasnach a rhyfel.

Cyfadran Llongddrylliadau
Adran Hydrograffeg
Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Admiralty Road, Taunton
Gwlad yr Haf TA1 2DN
01823 337900
www.ukho.gov.uk

Gwybodaeth am longddrylliadau ym moroedd arfordirol y DU a thramor, ers 1913 yn bennaf.

Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Y Maendy
Caerdydd
CF14 3UZ
0870 3333636
www.companieshouse.gov.uk

Cofnodion cofrestru cwmnïau ers canol y 19eg ganrif.

Amgueddfa Forwrol Glannau Mersi
Doc Albert
Lerpwl L3 4AD
0151 207 0001
www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime

Hanes morwrol Lerpwl, yn enwedig allfudo. Gyda datblygiad teithiau rheolaidd llongau ager rheolaidd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, ffeindiodd llawer o allfudwyr y DU a rhan helaeth o gyfandir Ewrop eu ffordd i Lerpwl i deithio ar longau i UDA a Chanada.

Archifdy Cenedlaethol yr Alban
General Register House
Princess Street Caeredin
0131 535 1314
www.nas.gov.uk

Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon
66 Balmoral Ave.
Belffast  B99 6NY  
028 9025 5905
www.proni.gov.uk

Cymdeithas yr Achyddion
14 Charterhouse Buildings
Goswell Road
Llundain EC1M 7BA
020 7521 8799
www.sog.org.uk

Mae’r llyfrgell ar agor i bawb. Mae’n cynnwys casgliadau o gofrestrau plwyfi a mynegeion o enwau teulu, priodasau ac ewyllysiau.

Yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd
Lambeth Road
Llundain
SE1 6AZ
020 7416 5320
www.iwm.org.uk

Hanes morwrol y ddau ryfel byd a rhyfeloedd ers hynny.

Amgueddfa’r Llynges Frenhinol
Dociau Ei Mawrhydi
Portsmouth
PO1 3LR
023 9272 7562
www.royalnavalmuseum.org.uk

Hanes y Llynges Frenhinol.

Archidfy Hanes Morwrol
Memorial University Newfoundland
St Johns
Newfoundland
Canada A1C 557
001-709-737-8428 (from UK)
www.mun.ca/mha

Rhestrau o griwiau llongau masnach Prydain 1863-1938. (Mae mynegai ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Archifdai Sirol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Archifdy Ynys Môn
Ystâd Diwydiannol Bryn Cefni
Llangefni,
Ynys Môn 
LL77 7JA
01248 751930
archives@ynysmon.gov.uk
www.ynysmon.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin
SA31 3DS
01267 228232
www.sirgar.gov.uk

Archifdy Ceredigion
Hen Neuadd y Dre
Sgwâr y Frenhines
Aberystwyth
Ceredigion SA23 2EB
01970 633697
www.ceredigion-archifau.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Conwy
Ffordd Lloyd
Llandudno
Conwy LL30 2YG
01492 860882
www.conwy.gov.uk/archifau

Archifdy Sir y Fflint
Yr Hen Reithordy
Penarlâg
Sir y Fflint  LL15 1HP
01224 532364
www.siryfflint.gov.uk

Archifdy Sir Benfro
Y Castell,
Hwlffordd,
Sir Benfro, SA
01437 763707
record.office@pembrokeshire.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Cae Penarlâg,
Dolgellau
Gwynedd LL40 2YF0
01341 424443
www.gwynedd.gov.uk/archifau

Archifdy Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Leckwith
Caerdydd  CF11 8AW
(029) 2087 2200
GlamRO@cardiff.gov.uk
www.glamro.gov.uk

Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office]
Steelworks Road
EBBW VALE
Blaenau Gwent NP23 6DN
01495 353363
gwentarchives.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Swyddfeydd y Sir
Caernarfon
Gwynedd LL55 1SA
01286 679095
www.gwynedd.gov.uk/archifau

Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg
Neuadd y Sir,
Heol Ystumllwynarth,
Abertawe, SA1 3SN
01792 636589
www.abertawe.gov.uk/archifau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
01970 632800
www.llgc.org.uk

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
chc.cymru@cbhc.gov.uk
www.cbhc.gov.uk

Mae’r rhan fwyaf o’r archifdai hyn yn cadw gwahanol fathau o gofnodion morwrol fel rhestrau criw, cofrestrau statudol y diwydiant llongau a dogfennau eraill fel llyfrau cownt a chofnodion teuluol.