Ymchwiliau meysydd glo Cymru
Diddordeb yn hanes meysydd glo Cymru?
Mae’r rhestr o ffynonellau deunydd ar ddiwydiant glo Cymru’n helaeth ac yn amrywiol. Rydyn ni’n derbyn ymholiadau ar bob math o bethau, o wybodaeth am byllau glo unigol i gyndeidiau oedd yn lowyr. Nod y daflen hon yw rhestru rhai o’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf defnyddiol.
Cofnodion cwmnïau
Cyn gwladoli’r diwydiant glo ym 1947, roedd y pyllau glo dan berchnogaeth breifat. O Ionawr 1947 ymlaen, bu’r diwydiant yn masnachu o dan enw’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, tan 1986 pan ddaeth dan ofal Glo Prydain. Cyflwynwyd llawer o gofnodion y cyrff hyn mewn archifdai lleol a cheir rhestr o gyfeiriadau defnyddiol yn nes ymlaen.
Ffotograffau Hanesyddol
Mae gan
Amgueddfa Genedlaethol y Glannaunifer fawr o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo, ond mae gan lawer o amgueddfeydd glofaol ac archifdai gasgliadau hefyd.
Y llyfrgell
Mae’r cyfrolau defnyddiol canlynol ar gael yn llyfrgell yr amgueddfa:
- The Colliery Year Book and Trades Directory: Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1922 ac fe’i cyhoeddwyd bob blwyddyn wedyn tan 1964 pan ddaeth yn gyfeirlyfr ar gyfer y fasnach dosbarthu glo. Roedd yn rhestru’r holl byllau glo oedd yn cynhyrchu, eu lleoliad, nifer y gweithwyr a’r talcenni glo oedd yn cael eu cloddio.
- Guide to the Coalfields a gyhoeddwyd yn flynyddol gan y Colliery Guardian. Yn ogystal â’r sefydliad cenedlaethol a’r diwydiannau ategol, mae’n eu rhannu’n adrannau yn ôl ardaloedd gweinyddol yr NCB neu Glo Prydain. Mae darn bychan ar byllau bach trwyddedig hefyd.
- Adroddiadau Blynyddol Adrannol Arolygwyr Pyllau Ei Mawrhydi yn ogystal ag adroddiadau unigol ar ddamweiniau difrifol yn y pyllau.
DS Nid oes gan y llyfrgell gyfresi llawn o’r cyfrolau uchod, ond cysylltwch â’r Amgueddfa i holi am fanylion llawnach.
Yn ogystal, mae dewis eang o weithiau technegol a llyfrau ar hanes meysydd glo Cymru ar gael.
Archifdai perthnasol i faes glo Cymru
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin SA31 3DS
01267 228232
www.sirgar.gov.uk
Yr Hen Reithordy
Penarlâg
Sir y Fflint LL15 1HP
01224 532364
www.siryfflint.gov.uk
Steelworks Road
EBBW VALE
Blaenau Gwent NP23 6DN
01495 353363
gwentarchives.gov.uk
Y Castell
Hwlffordd
Sir Benfro, SA
01437 763707
record.office@pembrokeshire.gov.uk
Neuadd y Sir
Heol Ystumllwynarth,
Abertawe, SA1 3SN
01792 636589
www.abertawe.gov.uk/archifau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
01970 632800
www.llgc.org.uk
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
chc.cymru@cbhc.gov.uk
www.cbhc.gov.uk