Diwydiant Modern ac Arloesi

Mae’r casgliad diwydiant modern ac arloesi yn canolbwyntio ar y cyfnod o 1936 hyd heddiw. Cafodd 1936 ei ddewis oherwydd mai yn y flwyddyn hon yr agorwyd y stad ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru, sef Stad Ddiwydiannol Trefforest. Roedd hyn yn arwydd o newid cyfeiriad i ddiwydiant Cymru. Roedd oes y diwydiannau trymion yn dirwyn i ben, a ffatrïoedd a diwydiannau ysgafnach yn dod yn bwysicach. Caiff y digwyddiad hwn ei gydnabod heddiw fel y cam cyntaf tuag at greu economi o ddiwydiannau amrywiol yng Nghymru.

Mae’r casgliad ei hun yn un amrywiol iawn, yn cynnwys nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru neu sydd â chysylltiad Cymreig cryf – fel dyfeisiwr neu ddylunydd o Gymru, er enghraifft.

Mae’r casgliad yn cynnwys:

  • Enghreifftiau, ffotograffau a dogfennau o ffatrïoedd megis Hoover a Lego.
  • Enghreifftiau, ffotograffau a dogfennau yn ymwneud â’r diwydiannau animeiddio, twristiaeth ac ynni niwclear.
  • Casgliad o deganau a gynhyrchwyd yng Nghymru, gan gynnwys cwmnïau fel Oxford Diecast a esblygodd o gwmni Mettoy..
  • Technoleg arloesol o Gymru, gan gynnwys offer trydan, cyfrifiaduron, yr anadliedydd cyntaf a hyd yn oed ddillad isaf Kevlar i amddiffyn milwyr rhag ffrwydron, a wnaed yng Nghaerdydd.
  • Yn ddiweddar mae diwydiannau amgylcheddol ac ailgylchu wedi dod i’r amlwg, a chwmnïau Cymreig yn arwain y gwaith o droi deunyddiau fel bagiau byrnau gwair yn feinciau, neu droi cewynnau yn ddeunydd inswleiddio a bwrdd ffeibr.
  • Mae’r Amgueddfa hefyd yn casglu ‘atgofion’ ar ffurf tystiolaeth fideo gan bobl fu’n gweithio mewn ffatrïoedd, pwerdai, stiwdios a chyrchfannau twristiaid. Caiff yr ‘hanesion cyhoeddus’ hyn eu hychwanegu i’r Casgliad Cenedlaethol er mwyn i blant yfory gael golwg uniongyrchol ar sut oedden ni’n byw.