Diwydiant Glo

Mae casgliad glofaol Amgueddfa Cymru yn cynnwys dau draean holl gasgliadau mwyngloddio Cymru. Dyma’r cofnod mwyaf cynhwysfawr o ddiwydiant glo Cymru, o bell ffordd.

Mae’r casgliad yn cynnwys:

  • Glofa Big Pit, Blaenafon, yn cynnwys y tŷ weindio, cantîn, baddonau pen y pwll, siop y gof, a’r gwaith tanddaearol yn cynnwys stablau, y ffas lo, a’r injan halio.
  • Peiriannau mawr a bach, gan gynnwys cynhaliaeth to, torwyr glo, ffaniau awyru a dramiau glo.
  • Offer llaw o ddechrau’r 1800au i farwolaeth y diwydiant tua diwedd yr 20fed ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys ceibiau, slediau, bwyeill, rhawiau a llifiau.
  • Casgliad cynhwysfawr o oleuadau mwyngloddio, o ddalwyr canhwyllau i lampau trydanol gyda phwyslais penodol ar lampau diogelwch. Ymysg yr eitemau mwyaf diddorol mae lampau Davy, Clanny a Marsaut gan gynnwys rhai a ddarganfuwyd ymysg olion trychinebau Abercarn ac Albion.
  • Cyfarpar achub a chymorth cyntaf y glowyr.
  • Casgliad o eitemau undebau llafur o Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr, De Cymru. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad mawr o fathodynnau undebau llafur o gyfnod Streic y Glowyr 1984–85, gan gynnwys bathodyn prin a gafwyd gan yr heddlu.
  • Dillad glowyr yn cynnwys esgidiau a helmedau diogelwch, a dillad yn dyddio’n ôl yn bennaf i ganol y 1960au.
  • Medalau dewrder gan gynnwys medalau Albert, Edward, RSPCA, Sant Ioan a’r Humane Society.
  • Casgliad mawr o ffotograffau yn dangos pob agwedd o’r diwydiant glo, gan gynnwys casgliad pwysig John Cornwell.
  • Llyfrgell yn cynnwys cyfrolau a phamffledi yn ymwneud â glo.

Y Diwydiant Glo

Ceri Thompson

Curadur (Glo)
Gweld Proffil