Diwydiant Llechi

Cartref Amgueddfa Lechi Cymru yw'r Gilfach Ddu - hen weithdai cynnal a chadw Chwarel Dinorwig. Yn y gweithdai hyn y gwnaed holl waith trwsio a chynnal a chadw’r chwarel, popeth o atgyweirio injans stem i adeiladau wagenni i gludo’r llechi. O ganlyniad mae’n ymddangos mai peiriannau mawr haearn yw craidd casgliad yr Amgueddfa Lechi, ond mae llawer mwy i’r casgliad o dros 8,000 o wrthrychau, dogfennau, a ffotograffau.

  • Yn gyntaf, rhan greiddiol y casgliad yw’r gwrthrychau a oedd ar y safle pan sefydlwyd yr amgueddfa h.y. ‘fixtures and fittings’ gwreddiol y Gilfach Ddu, pethau megis yr olwyn ddŵr a’r olwyn Pelton, a’r peiriannau yn y gweithdai. Dyma’r gwrthrychau sydd yn rhoi naws wreiddiol i’r amgueddfa, ac a ysbrydolodd pobl fel Hugh Richard Jones (Prif Beiriannydd olaf Chwarel Dinorwig) nol yn 1969 i sefydlu amgueddfa yn y Gilfach Ddu.
  • Yr ail gategori o wrthrychau sydd yn ffurfio casgliad yr amgueddfa ydi’r gwrthrychau sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd gan staff yr amgueddfa. Mae’r gwrthrychau yma yn adeiladu ar y casgliad creiddiol gan eu bod yn wrthrychau o wahanol ardaloedd o Gymru, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd u diwydiant drwy Gymru. Mae’r gwrthrychau yma yn amrywiol iawn, pethau megis Una injan stem oedd yn gweithio’n wreiddiol yn Chwarel Penyrorsedd, Dyffryn Nantlle, neu beiriant cloddio ‘Smith Rodley’ o Chwarel Dwr Oer, Blaenau Ffestiniog. Mae’r categori yma o wrthrychau hefyd yn cynnwys detholiad o offer llaw a ddefnyddiwyd gan chwarelwyr, megis cynion.
  • Y trydydd categori o wrthrychau sy’n ffurfio casgliad yr amgueddfa ydi’r gwrthrychau sydd yn dodrefnu Fron Haul - rhes o bedwar tŷ a symudwyd carreg wrth garreg o Danygrisiau - a Thŷ’r Peiriannydd. Mae’r gwrthrychau yma yn amrywiol iawn gan fod y tai wedi eu dodrefnu fel eu bod o gyfnodau a lleoliadau gwahanol:
    • Rhif. 3 Fron Haul - 1861, Tanygrisiau — oes aur y diwydiant llechi;
    • Rhif. 2 Fron Haul - 1901, 1901, Bethesda — Streic y Penrhyn;
    • Rhif. 1 Fron Haul - 1969, Llanberis — cau Chwarel Dinorwig;
    • Tŷ’r Peiriannydd - 1911, Gilfach Ddu, Llanberis.

Diwydiant Llechi

Cadi Iolen

Uwch Guradur: Llechi
Gweld Proffil