Ymweld Am Ddim

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Oriau Agor y Gaeaf — Tan Dydd Sul 8 Chwefror 2026

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–4 pm
Wednesday 10 am–4 pm
Thursday 10 am–4 pm
Friday 10 am–4 pm
Saturday 10 am–4 pm
Sunday 10 am–4 pm
orielau yn cau am 3.45pm.

O Dydd Llun 9 Chwefror 2026

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–4 pm
Wednesday 10 am–4 pm
Thursday 10 am–4 pm
Friday 10 am–4 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm

O Dydd Llun 16 Chwefror 2026

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–5 pm
Wednesday 10 am–5 pm
Thursday 10 am–5 pm
Friday 10 am–5 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

 Cyfeiriad

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: caerdydd@amgueddfacymru.ac.uk

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

 Cyfleusterau

Mae loceri ar gael ar gyfer storio bagiau yn ystod ein oriau agor rhwng 10yb a 5yh. Fe'u gweithredir gyda tocynnau sydd ar gael yn ein Desg Groeso am flaendal y gellir ei ad-dalu o £1.

Mae gennym hefyd ardal storio ychwanegol sy'n addas ar gyfer cês neu fagiau mawr. Ni ellir gadael unrhyw eiddo yn yr Amgueddda dros nos. I ddefnyddio’r gwasanaeth yma, gofynnwch i’n staff ar y Ddesg Groeso. Gofynnwn yn garedig am rhodd o £5 am y cyfleustra.

Caniateir cadeiriau gwthio a phramiau yn yr Amgueddfa, ond gellir eu gadael hefyd mewn parc bygi yn y Brif Neuadd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Eiddo Coll

Cysylltwch gyda ni i holi am eiddo coll. Yn anffodus, ni allwn gadw eitemau personol am fwy na pythefnos.

 Grwpiau

Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.

Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio addysg@amgueddfacymru.ac.uk am y manteision canlynol:

  • Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).

 Map safle

Map Safle

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Ydw i’n gallu dod a’r ci?

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa. 

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.

Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal: Dewch i ddarganfod stori Cymru