Baner Aberfan

Digwyddiad:Cymru... Aberfan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Gwybodaeth

1 Hydref 2026 – 1 Hydref 2027
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Yn 2022 fe drosglwyddodd teulu gafodd eu heffeithio gan drychineb Aberfan gloc bach i ofal Amgueddfa Cymru. Mae'r cloc wedi stopio am 9.13am – union foment y drychineb ar 21 Hydref 1966. Mae'n gofeb rymus i'r bywydau a gollwyd yn Aberfan y diwrnod hwnnw.

Drigain mlynedd ers y drychineb, mae'r arddangosfa yn oriel Cymru... yn dangos y cloc ochr yn ochr â gwrthrychau eraill gafodd eu rhoi i'r Amgueddfa gan deulu a brofodd y drychineb eu hunain – gan gynnwys pêl-droed a llyfrau ysgol brawd a chwaer gafodd eu lladd ar y diwrnod, Carl a Marylyn Minett.⁠⁠

Mae'r gwrthrychau yn gipolwg tyner ar y golled, y galar, a'r cofio ddaeth yn rhan o fywydau'r teulu am byth, ac yn dathlu'r unigolion eu hunain a'r atgofion mae'r teulu a'r gymuned yn eu cario hyd heddiw. Gall ymwelwyr alw draw i gofio pawb fu farw a myfyrio ar bwysigrwydd Aberfan yng nghof cenedl Cymru.

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun 10 am–5 pm
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Lleoliad

Caerdydd   
CF5 6XB

  Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Mynediad

  Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

 Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau